Mae Alison Pritchard, Rheolwr Cyllid Cynaliadwy CGGC, yn edrych ar y symudiad diweddar gan Lywodraeth Cymru at grantiau mwy hirdymor a beth mae hyn yn ei olygu i fudiadau gwirfoddol.

Cyhoeddwyd: 17 Mai 2022
Sylwch, mae'r erthygl hon wedi dod i ben

Ar ddechrau mis Ebrill, cyhoeddodd Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu grantiau mwy hirdymor bellach. Mae hwn yn newid cadarnhaol i’r sector gwirfoddol, ond sut cafodd y sector ei gynnwys yn y gwaith o ddatblygu’r polisi hwn? A sut bydd yn gweithio’n ymarferol?

PLEDIO’R ACHOS DROS GYLLID MWY HIRDYMOR

Mae’r sector gwirfoddol yng Nghymru wedi bod yn galw am gyllid grant mwy hirdymor gan Lywodraeth Cymru (a darparwyr grant eraill) ers blynyddoedd. Yn fwy diweddar, amlygodd CGGC effaith trefniadau cyllido tymor byr yn ein Cyllid Cynaliadwy ar gyfer y Trydydd Sector: Diweddariad 2021, a nododd adroddiad Uchel ac yn Groch Sefydliad Cymunedol Cymru yn 2020 ei fod (ynghyd â diffyg cyllid craidd) yn fater o bryder mawr.

Mae cyllid tymor byr yn rhoi pwysau ar fudiadau gwirfoddol o ran recriwtio a chadw staff, mae llai o gapasiti oherwydd yr amser a dreulir ar lenwi ceisiadau blynyddol dro ar ôl tro ac ni ellir cynllunio ar gyfer yr hirdymor.

BETH SY’N NEWID?

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu bellach ar bryderon y sector. Cyhoeddodd Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yn ddiweddar y bydd Llywodraeth Cymru yn symud i drefniadau cyllido mwy hirdymor.

Bydd gan raglenni grant sy’n dechrau ar ôl 1 Ebrill 2022 yr opsiwn bellach (yn dibynnu ar y maes polisi a’r hyn sy’n fwyaf priodol) i redeg am gyfnod cychwynnol o hyd at dair blynedd, gyda’r posibilrwydd o gael eu hymestyn am dair blynedd arall ar ben hynny. Golyga hyn bod potensial nawr i fudiadau gael eu cyllido am gyfanswm o hyd at chwe blynedd.

YMRWYMIAD I’W GROESAWU

Mae CGGC a Chyngor Partneriaeth y Trydydd Sector (TSPC) yn croesawu’r cam ymlaen cadarnhaol hwn ym mhroses llunio grantiau Llywodraeth Cymru yn fawr iawn.

Yn ei llythyr at TSPC yn cadarnhau’r dull gweithredu newydd hwn a fydd yn cael ei roi ar waith, diolchodd Jane Hutt i aelodau ‘…am [eich] cymorth ac ymgysylltiad parhaus â’r gwaith sydd ar droed i ddatblygu a gweithredu’r gwelliannau hyn i’n prosesau cyllid grant.

‘Gwelliannau yr wyf yn gwybod a fydd yn cyfrannu at sicrhau bod pob ceiniog o gyllid yn cyfrif ac yn dod â chyfoeth o fuddion i fywydau unigolion a’n cymunedau lleol yng Nghymru.’

SICRHAU EI FOD YN GWEITHIO I FUDIADAU GWIRFODDOL

Mae Is-bwyllgor Cyllid a Chydymffurfio’r TSPC wedi bod yn allweddol yn y gwaith o ddatblygu’r newid hwn. Gwnaeth Canolfan Ragoriaeth Grantiau Llywodraeth Cymru ymgynghori â’r is-bwyllgor ar y cynnig cychwynnol a’r canllawiau y bydd Rheolwyr Grant Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio i roi’r ffordd hon o weithio ar waith.

Bydd y dull gweithredu newydd hwn yn gymwys i sectorau preifat a chyhoeddus, yn ogystal â’n sector ni’n hunain, felly rhan allweddol o waith yr is-bwyllgor oedd sicrhau y bydd yn gweithio cystal i’r sector gwirfoddol ac y bydd i eraill.

Ar ôl y cyfnod grant cychwynnol, mae’n bosibl y bydd angen i fudiadau fynd trwy broses meincnodi cyn y bydd cyfnod pellach o gyllid yn cael ei gytuno. Gwnaeth yr is-bwyllgor helpu i egluro’r hyn a olygwyd wrth feincnodi ac i sicrhau y bydd gofynion yr adolygiad hwn yn cael eu hegluro’n llwyr yn ystod cam ymgeisio’r holl broses grant.

Yn wir, prif ffocws yr is-bwyllgor yn ystod y broses hon, ac wrth fonitro sut mae’r trefniadau hyn yn gweithio’n ymarferol, yw sicrhau bod cyfathrebu rheolaidd rhwng rheolwyr grant a deiliaid grant.

GWAITH I’W WNEUD O HYD

Er cymaint y croesawir y newid hwn, rydyn ni hefyd yn sylweddoli y bydd rhai o’r sector yn poeni ynghylch sut bydd yn gweithio’n ymarferol. Bydd yr Is-bwyllgor Cyllid a Chydymffurfio yn ‘cadw llygad’ ar sut mae’r dull newydd hwn yn cael ei roi ar waith a bydd bob amser yn croesawu adborth gan fudiadau ar sut brofiad yw’r broses, yn enwedig yr adolygiadau meincnodi.

Yn y cyfnod cynnar hwn, rydyn ni’n sylweddoli mai un canlyniad anfwriadol o’r dull gweithredu hwn yw y bydd llai o gyfleoedd i ymgeisio am grantiau os ydyn nhw dim ond ar agor am geisiadau bob chwe blynedd (ar y mwyaf), ac rydyn ni wedi amlygu hyn gyda’r Ganolfan Ragoriaeth Grantiau.

GWNEUD CYFLEOEDD AM GYLLID YN EGLUR

Un lliniariad sydd wedi’i awgrymu yw sicrhau bod holl gyfleoedd cyllido Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector gwirfoddol yn cael eu rhestru ar Cyllido Cymru (sydd â mwy na 14,000 o ddefnyddwyr cofrestredig bellach). Rydyn ni wedi dechrau’r sgwrs hon gyda Llywodraeth Cymru a byddwn ni’n parhau i geisio gwireddu hyn.

Rydyn ni hefyd yn gwybod y bydd y ffordd y caiff y broses feincnodi ei rhoi ar waith yn dyngedfennol ac rydyn ni eisiau sicrhau y bydd yn deg ac yn hyblyg i dderbynyddion grant, gan hefyd ddarparu’r wybodaeth gadarn sydd ei hangen ar gyllidwyr.

CAMAU NESAF

Ffocws nesaf yr is-bwyllgor fydd gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddiweddaru’r Cod Ymarfer ar gyfer Cyllido’r Trydydd Sector. Mae’r cod yn nodi’r prif egwyddorion a fydd yn sail i gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector gwirfoddol a’r hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddisgwyl gan y sector yn gyfnewid am hyn. Gyda dechreuad y trefniadau cyllido newydd hyn, bydd angen diweddaru’r cod.

Ar hyn o bryd, mae’r cod yn ganllaw i fudiadau llunio grantiau ar gyfer datblygu eu rhaglenni grant, a gellir hefyd ei ddefnyddio gan fudiadau gwirfoddol i sicrhau bod llunwyr grant yn cadw at safonau arferion gorau.

Byddwn ni’n manteisio ar y cyfle hwn i sicrhau bod y cod yn hygyrch i’r sector gwirfoddol ac yn adlewyrchu eu hanghenion. Cadwch lygad am gyfleoedd ymgysylltu ynghylch hyn gan CGGC yn y misoedd i ddod

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award