Cymerwch ran mewn sgwrs am ddyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae croeso i bawb i’r digwyddiadau anffurfiol a rhyngweithiol hyn, gan gynnwys staff iechyd a gofal cymdeithasol a’r cyhoedd.
Ymunwch â’r sgwrs am yr heriau y mae’r sector iechyd a gofal cymdeithasol yn eu hwynebu a dywedwch eich dweud:
Ymunwch ag un o’r digwyddiadau gweithdy sy’n cael eu cynnal gan Gomisiwn Bevan, melin drafod iechyd a gofal mwyaf blaenllaw Cymru.
Bydd Comisiwn Bevan yn defnyddio’r farn a’r syniadau o’r sgyrsiau hyn i lunio adroddiad ar gyfer Llywodraeth Cymru a phob Bwrdd Iechyd yng Nghymru, gan wneud argymhellion ynghylch yr hyn sydd angen ei newid. Bydd lluniaeth ar gael.
Manylion y digwyddiad
Yn bersonol 10.30am – 1pm yn y lleoliadau canlynol:
Ar-lein 6pm – 8.30pm
Archebwch i fod yn rhan o’r sgwrs; Dewiswch ddyddiad a lleoliad ar Eventbrite
Comisiwn Bevan, yw melin drafod iechyd a gofal mwyaf blaenllaw Cymru, sy’n cael ei gynnal a’i chefnogi gan Brifysgol Abertawe. Maent yn dwyn ynghyd grŵp o arbenigwyr iechyd a gofal rhyngwladol i ddarparu cyngor annibynnol, awdurdodol i Lywodraeth Cymru ac arweinwyr yng Nghymru, y DU a thu hwnt. Maent yn sicrhau y gall Cymru fanteisio ar yr arferion gofal iechyd gorau o bob cwr o’r byd wrth aros yn driw i egwyddorion y GIG fel y’u sefydlwyd gan Aneurin Bevan.
Fel arall, ffoniwch 01792 604630, neu e-bostiwch bevan-commission@swansea.ac.uk.