Lansio adnoddau ‘Yn ôl i Fywyd Cymunedol’ i helpu pobl ar ôl COVID-19

Cyhoeddwyd: 10 Mehefin 2021

Mae ‘Yn ôl i Fywyd Cymunedol’ gan Gwelliant Cymru yn cefnogi pobl sy’n ei chael hi’n anodd gadael eu cartrefi a dychwelyd i fywyd cymunedol ers y pandemig.  Mae’r rhain yn cynnwys pobl â dementia, pobl oedd gynt yn gwarchod eu hunain, neu bobl sy’n agored i niwed. 

Dechreuwyd y fenter yn Aberpennar ac fe’i crëwyd mewn partneriaeth â phobl leol, yr heddlu, asiantaeth wirfoddoli leol, trafnidiaeth leol, yr awdurdod lleol, y trydydd sector, iechyd a gofal cymdeithasol, siopau a busnesau, sy’n gweithio gyda’i gilydd i gynhyrchu’r deunyddiau ac i nodi’r rhai sydd angen help.  Mae partneriaid ‘Yn ôl i Fywyd Cymunedol’ wedi darparu gwybodaeth i siopau ac amwynderau lleol i’w helpu i gefnogi’r heriau y gallai pobl eu hwynebu wrth iddynt fynd o gwmpas eu pethau.

Bydd yr adnoddau ‘Yn ôl i Fywyd Cymunedol’ yn cael eu rhannu â chymunedau ledled Cymru er mwyn iddynt gydlynu eu prosiectau eu hunain.  Ymhlith yr adnoddau mae canllawiau ar sut i baratoi, ymarfer sgiliau a theimlo’n hyderus i adael y tŷ, a’r hyn y dylid ei ddisgwyl o ganlyniad i’r newidiadau a wnaed mewn siopau a chyfleusterau lleol yn ystod y pandemig, gan gynnwys gwybodaeth am ‘fannau diogel’ a chiwio â blaenoriaeth.

Gallwch ddarganfod mwy am y fenter yma

Gweld a rhannu’r deunyddiau yma ImprovementCymru.net/CommunityLife

Mae Back to Community Life yn cefnogi Agenda Adfer a Gofal Integredig COVID-19.

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award