Hyfforddiant digidol ar gyfer grwpiau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn unig

Cyhoeddwyd: 14 Hydref 2021
Sylwch, mae'r erthygl hon wedi dod i ben

Ar ôl cael ‘Cwrs Sgiliau Digidol Hanfodol’ llwyddiannus 6 wythnos, mae Cymunedau Digidol Cymru wedi lansio rhaglen beilot Cymunedau sydd wedi’i Chysylltu’n Ddigidol ar gyfer cymunedau lleiafrifoedd ethnig yn unig.

Mae’r rhaglen hyfforddi yn para am chwe mis a bydd yn ymdrin ag ystod o bynciau sy’n helpu i chwalu rhwystrau a chael cymunedau ar-lein. Rhwng sesiynau hyfforddi misol, bydd Cymunedau Digidol Cymru yn cynnal fforymau cydweithredol.

Yma, gallwch gysylltu â sefydliadau eraill sy’n gweithio ar y prosiect, i rannu eich buddugoliaethau, cyfeirio at wasanaethau defnyddiol ac adeiladu rhwydwaith cymorth cryf ar gyfer cymunedau sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol.

I gwblhau’r cwrs, byddwn yn cynnal fforwm dathlu terfynol, lle gallwch ddathlu eich sgiliau newydd a’r da rydych wedi’i gyflawni dros y chwe mis diwethaf!

Mae’r hyfforddiant yn cynnwys:

  • Dod i’ch adnabod chi
  • Hanfodion y We / Dyfeisiau Gwahanol
  • Diogelwch Ar-lein
  • Meddwl yn Feirniadol
  • Ysbrydoli Digidol – Ymgysylltu â Dinasyddion
  • Creu/ Cynnal Cydymaith Digidol yn eich Cymunedau

Oes gennych chi ddiddordeb mewn mynychu?

Bydd angen i chi gofrestru erbyn 31ain Hydref 2021 drwy glicio ar y ddolen yma.

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award