Gan mai hwn yw’r cyfle olaf i redeg prosiectau cyflogaeth un flynedd, mae mudiadau gwirfoddol yn cael eu hannog i gysylltu ag CGGC ynghylch gwneud cais cyn y cylch Cynhwysiant Gweithredol newydd.
Mae Cronfa Cynhwysiant Gweithredol CGGC yn ffordd bwysig i fudiadau gwirfoddol fynd i’r afael â diweithdra yn sgil Covid-19. Os ydych chi’n credu y gallech gynnig sgiliau newydd, cyfleoedd gwirfoddoli neu gyflogaeth â chymorth a thâl i bobl dan anfantais yng Nghymru er mwyn goresgyn rhwystrau i weithio, gallai’r gronfa hon fod i chi.
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais ar gyfer cylch nesaf cyllid Cynhwysiant Gweithredol yw 4 Mehefin 2021. Ond, bydd angen i’r rheini sy’n ymgeisio am y tro cyntaf fynd trwy broses gymeradwyo erbyn diwedd mis Ebrill, cyn i’r ceisiadau agor ar 3 Mai 2021.
Mae’r cylch hwn yn garreg filltir bwysig oherwydd hwn fydd y cyfle olaf i wneud cais am gyllid ar gyfer prosiectau hyd at flwyddyn o hyd.
I drefnu sgwrs anffurfiol e-bostiwch activeinclusion@wcva.cymru neu ffoniwch 0300 111 0124.
Mae ein gwefan ariannu Funding Wales a lansiwyd gan Third Sector Support Wales, yn helpu sefydliadau trydydd sector i ddod o hyd i gyllid.
I ddechrau chwilio am gyfleoedd cyllido, ewch i funding.cymru