Hafan » Gwobrau Elusennol Weston | Gwnewch Gais erbyn 8 Ionawr
Trwy’r Gwobrau Elusennol Weston, mae grantiau diamod o £6,500 ar gael i hyd at 22 o elusennau uchelgeisiol.
I fod yn gymwys i wneud cais, rhaid i chi fod yn:
Rhaid i’ch elusen hefyd weithio i leddfu anfantais mewn un neu fwy o’r meysydd canlynol:
Mae hyn yn cynnwys gwaith gwirfoddoli, prosiectau ymarferol i wella ardal, rhedeg canolfannau cymunedol a darparu ystod o wasanaethau i’w cymuned leol, yn enwedig i’r rheini sydd efallai’n agored i niwed neu mewn angen.
Mae hyn yn cynnwys gweithredu’n ymarferol ar ddefnydd tir a physgota cynaliadwy, ynni adnewyddadwy, cynlluniau ailgylchu, bioamrywiaeth, cadwraeth rhywogaethau, bywyd morol, addysg, gwyddoniaeth newid hinsawdd a chadwraeth.
Mae hyn yn cynnwys helpu oedolion sy’n profi eithrio, anawsterau cymdeithasol neu economaidd; pobl sy’n profi digartrefedd; pobl sydd mewn perygl o droseddu neu ail-droseddu; ac elusennau sy’n cefnogi pobl hŷn neu bobl ag anableddau.
Mae hyn yn cynnwys darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed, megis cynnig cyngor ac arweiniad, profiad gwaith, hyfforddiant a chymorth. Nid yw ysgolion yn gymwys i wneud cais i’r Gwobrau.
Gall elusennau sydd wedi gwneud cais yn flaenorol wneud cais eto, ond dim ond os oes newidiadau sylweddol wedi bod yn eu hamgylchiadau. Dewisir enillwyr ar sail eu parodrwydd i elwa o Pilotlight 360. Rhaid i arweinydd yr elusen sy’n gwneud cais fod yn barod i deithio i ganol Llundain am o leiaf bedwar allan o ddeg cyfarfod.
Am fwy o wybodaeth ac am gyfarwyddiadau ar sut i wneud cais, cliciwch yma.
Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr
112/113 Commercial Street, Maesteg, CF34 9DL
Ff: 01656 810400
E: bavo@bavo.org.uk