Mae dirfawr angen rhywfaint o TLC ar Eglwys Glanrhyd! Ydych chi’n rhan o gymuned Pen-y-Fai ac â diddordeb mewn cynnig eich syniadau i’r adnewyddiad?
Mae Lizzie Thomas yn Swyddog Ymgysylltu sy’n gweithio gyda phartneriaid Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, BAVO a grwpiau trydydd sector eraill ar ailddatblygu Eglwys Glanrhyd, ym Mhen-y-Fai i ystyried opsiynau i’r eglwys gael ei defnyddio mwy fel a gofod cymunedol.
Fel rhan o’r broses hon, mae’n hynod bwysig ceisio barn y gymuned leol a sefydliadau lleol.
Mae Lizzie yn bwriadu cynnal gweithdy awr o hyd dros Zoom ar gyfer y gymuned ddydd Iau 25 Chwefror am 1pm.
Os oes gennych ddiddordeb, cofrestrwch trwy’r Eventbrite yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/glanrhyd-church-community-workshops-tickets-138579678549