Grwp Llywio Ieuenctid NexGen

Cyhoeddwyd: 8 Mawrth 2022
Sylwch, mae'r erthygl hon wedi dod i ben

Datblygwyd gweledigaeth NexGen gan adran Pobl Ifanc Egnïol Pen-y-bont ar Ogwr (AYPD) a’i nod yw cefnogi iechyd a lles pobl ifanc. Mae’r tîm AYPD yn gweithio tuag at gyflawni’r nod hwn drwy’r prosiectau a’r mentrau a redwn ar draws Pen-y-bont ar Ogwr.

Rôl Grŵp Llywio Ieuenctid NexGen yw adolygu gwaith AYPD i’n helpu i gyflawni ein nodau NexGen. Bydd Grŵp Llywio Ieuenctid NexGen yn ein helpu i ddatblygu’r gwaith rydym yn ei wneud ar hyn o bryd, yn rhoi llais ac adnoddau i bobl ifanc sbarduno newid a bydd yn llywio ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Fel rhan o Grŵp Llywio Ieuenctid NexGen, bydd pobl ifanc yn cael cyfle i rannu eu barn ar y gwaith a wnawn a’n helpu i wneud penderfyniadau a fydd o fudd i iechyd a lles pobl ifanc yn eu hardal leol.

Mae’r broses ymgeisio yn agored i bobl ifanc 14 oed a throsodd. Rhaid i ymgeiswyr fyw ym Mwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr a rhaid iddynt allu mynychu o leiaf 2 gyfarfod grŵp llywio y flwyddyn. Er mwyn gwneud cais i fod yn aelod o Grŵp Llywio Ieuenctid NexGen, bydd angen i bobl ifanc lenwi’r ffurflen gais sydd ynghlwm ac e-bostio eu ffurflenni wedi’u llenwi i mari.sutton@bridgend.gov.uk.

Ffurflen gais

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award