Mae grantiau ar gael i grwpiau bach neu elusennau i helpu i leihau unigedd ac unigrwydd, hyrwyddo gweithgareddau grŵp a gwella ansawdd bywyd pobl yn gyffredinol.
Mae Sefydliad Elusennol Barchester yn elusen gofrestredig sy’n helpu pobl hŷn ac oedolion ag anabledd ledled Cymru, Lloegr a’r Alban. Maent yn canolbwyntio ar gysylltu neu ail-gysylltu pobl ag eraill yn eu cymuned leol, ac maent yn cefnogi ceisiadau sy’n mynd i’r afael ag unigrwydd ac yn galluogi pobl i fod yn egnïol ac yn ymgysylltiol.
Mae eu ffocws ar gyllid yn ymwneud â chysylltu neu ail-gysylltu pobl ag eraill yn eu cymuned leol. Maent yn cefnogi ceisiadau sy’n mynd i’r afael ag unigrwydd ac yn galluogi pobl i fod yn egnïol ac ymgysylltiol.
Gallwch gael rhagor o fanylion a darganfod sut i wneud cais yma
Mae ein gwefan ariannu Funding Wales a lansiwyd gan Third Sector Support Wales, yn helpu sefydliadau trydydd sector i ddod o hyd i gyllid.
I ddechrau chwilio am gyfleoedd cyllido, ewch i funding.cymru