Mae cynllun Grantiau Gwirfoddoli Cymru 2021/22 bellach yn agored i geisiadau, gyda phwyslais ar brosiectau sy’n cefnogi Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol.
Mae’r cynllun yn cael ei weinyddu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) ac mae wedi’i lunio i gyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ganfod cyfleoedd i ragor o bobl wirfoddoli, drwy grantiau hyd at £20,000.
Eleni, bydd cynllun grantiau Gwirfoddoli Cymru’n canolbwyntio ar ymyriadau 6 mis sy’n mynd i’r afael â rhwystrau gwirfoddoli, gan roi profiad cadarnhaol i’r gwirfoddolwr a chael effaith hirdymor ar y gymuned. Rydyn ni’n gobeithio gwneud hyn drwy wneud yn siŵr bod amcanion y cyllid yn cyd-fynd â nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015).
Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) yw gwella’r ffordd mae Cymru’n cyflawni Llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol. Drwy ariannu mudiadau i gefnogi a hyfforddi unigolion drwy gyfleoedd gwirfoddoli o ansawdd, mae gwirfoddoli’n cael effaith gadarnhaol ar y gwirfoddolwr a’r gymdeithas yn syth ac yn y tymor hir. Mae gwirfoddolwyr yn hanfodol i gyflawni cenhadaeth a gwerthoedd mudiadau Gwirfoddol/neu’r Trydydd Sector yn genedlaethol.
Mae gwirfoddoli gan bobl ifanc yn cael ei hybu a’i gefnogi drwy’r cynllun grantiau hwn ac mae 30% o’r cyllid sydd ar gael wedi’i neilltuo i gefnogi prosiectau sy’n recriwtio gwirfoddolwyr ifanc rhwng 11 a 25 oed yn unig.
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth ar dudalennau cyllido cynllun grant Gwirfoddoli Cymru.
Rhaid derbyn ceisiadau erbyn 12 Ebrill 2021.
Bydd y broses ymgeisio ar Borth Ceisiadau Amlbwrpas CGGC. I gofrestru ac i weld y cyfleoedd ariannu agored sy’n cael eu gweinyddu gan CGGC, ewch i map.wcva.cymru
Mae ein gwefan ariannu Funding Wales a lansiwyd gan Third Sector Support Wales, yn helpu sefydliadau trydydd sector i ddod o hyd i gyllid.
I ddechrau chwilio am gyfleoedd cyllido, ewch i funding.cymru