Grantiau Bychain Cymru

Cyhoeddwyd: 10 Mawrth 2022

Mae gan rwydwaith Cyfamod y Lluoedd Arfog yng Nghymru arian ar gael ar hyn o bryd i gefnogi grantiau bychain ar gyfer gwaith prosiect yng Nghymru sy’n cefnogi aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog. Trwy’r ffurflen gais hon, gellwch bellach wneud cais am hyd at £4000 o gyllid grant fesul sefydliad.

Bydd y grant hwn yn cael ei ddefnyddio i gefnogi cyfres o brosiectau sy’n cynorthwyo, yn dathlu ac yn codi ymwybyddiaeth am Gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru. Croesewir ceisiadau ar gyfer darparu prosiectau/digwyddiadau/gweithgareddau rhwng mis Ebrill 2022 a Mawrth 2023.

Bydd y gronfa hon yn cael ei gweinyddu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar ran Llywodraeth Cymru a CLlLC. Gellwch anfon unrhyw ymholiadau am y grant at Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog drwy e-bostio stephen.townley@wrexham.gov.uk, neu drwy ffonio 01978 292267.

Dylid anfon ffurflenni cais wedi eu llenwi dros e-bost i: stephen.townley@wrexham.gov.uk ddim hwyrach na dydd Gwener, 8 Ebrill 2022.

Er mwyn bod yn gymwys i wneud cais, y mae’n rhaid i’r ymgeisydd fod yn elusen gofrestredig, yn Gwmni Buddiannau Cymunedol neu’n gorff cyhoeddus, a dylai bod cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn enw’r sefydliad sy’n gwneud y cais. Ni chaiff ceisiadau gan unigolion eu derbyn.

Amcanion Ceisiadau:
Rhaid i geisiadau fodloni o leiaf un o’r tri amcan canlynol:
1. Cefnogi’r gwaith o gyflawni argymhellion Ymarfer Cwmpasu Cyn-filwyr Llywodraeth Cymru [1] a/neu Strategaeth ar gyfer ein Cyn-filwyr, y DU [2].
2. Cefnogi grwpiau o gymuned y Lluoedd Arfog sydd heb gynrychiolaeth ddigonol – gan gynnwys personél benywaidd, LHDTC+, Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, Tramor ac o’r Gymanwlad.
3. Cefnogi Teuluoedd aelodau o’r Lluoedd Arfog yng Nghymru.

Rhaid i geisiadau ddangos costau rhesymol am weithgaredd / gwerth am arian, a rhaid cyfiawnhau unrhyw wariant mewn perthynas â’r holl gostau.

Sylwer: Mae’n rhaid i sefydliadau gadw cofnodion a derbynebau ac anfonebau mewn perthynas â gwariant, er mwyn caniatáu i archwilwyr mewnol neu allanol yr awdurdod lleol perthnasol eu gweld, pe bai angen.

Beth fydd yn digwydd nesaf: Byddwch yn cael gwybod am ganlyniad eich cais dros e-bost ar 29 Ebrill 2022, neu’n fuan ar ôl hynny.

Grant Application Form CYM (00001)a

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award