Mae Llywodraeth Cymru’n gwahodd grwpiau cymunedol i wneud cais am grantiau bach i helpu i sefydlu cwmnïau cydweithredol cymunedol, mentrau cymdeithasol a phrosiectau tai, neu eu cynorthwyo i dyfu. Grantiau Bach Prosiect Perthyn yw enw’r cyllid ac mae’n rhan o’r Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg.
Mae ceisiadau bellach ar agor tan 29 Medi 2023, ac rydym yn gwahodd grwpiau cymunedol i wneud cais am hyd at £12,500 i sefydlu neu gefnogi mentrau cydweithredol, mentrau cymdeithasol, a phrosiectau tai a arweinir gan y gymuned.
Mae manylion y cais ar wefan Cwmpass
Anfonwch geisiadau wedi’u cwblhau at Samantha Edwards, Rheolwr Prosiect: samantha.edwards@cwmpas.coop