Grant Profiad Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACES)

Cyhoeddwyd: 25 Tachwedd 2021
Sylwch, mae'r erthygl hon wedi dod i ben

Nod y cynllun yw cryfhau mentrau sy’n cefnogi unigolion sy’n tyfu i fyny, neu sy’n byw mewn cartrefi, lle ceir cam-drin domestig neu gamddefnyddio sylweddau, yn ogystal â’r rhai sy’n rhoi cymorth ymarferol i deuluoedd i’w helpu i ddelio â materion fel cyllid teulu, neu rianta i wella gwytnwch.Yn ogystal, gellir defnyddio cyllid hefyd i gefnogi unigolion neu sefydliadau sy’n darparu gweithgareddau i wella iechyd meddwl a chorfforol, neu’r rhai sy’n annog cymunedau i adeiladu eu cryfder a’u cefnogaeth ar y cyd i’w gilydd.

Mae’r cynllun grant bellach ond ar agor i grantiau bach

  • Hyd at £200 o grwpiau heb eu cyfansoddi dim cyfrif banc grŵp
  • Hyd at £500 grŵp heb ei gyfansoddi gyda chyfrif grŵp

Mae’r broses ymgeisio ei hun yn cael ei rheoli ar ran Llywodraeth Cymru gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru.

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award