Hafan » Cymryd rhan » Partneriaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles » Rhwydwaith Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Pen-y-bont ar Ogwr
Rhwydwaith Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Pen-y-bont ar Ogwr
Mae’r rhwydwaith hwn yn grŵp cyfunol o sefydliadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol a lles ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’n darparu llais i sefydliadau gwirfoddol trwy rannu gwybodaeth, cynnwys sefydliadau mewn ymgynghoriadau ac adolygiadau ac mae’n annog cyfranogiad mewn gweithio mewn partneriaeth.
- Ydych chi’n sefydliad gwirfoddol neu gymunedol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr?
- A oes gan eich sefydliad ddiddordeb mewn iechyd, gofal cymdeithasol a lles?
- Hoffech chi gael y newyddion diweddaraf?
- Hoffech chi gwrdd â phobl o sefydliadau tebyg sydd â diddordebau tebyg?
- Hoffech chi ddylanwadu ar bolisi iechyd a gofal cymdeithasol?
Os YDYCH, beth am ymuno â Rhwydwaith Sector Gwirfoddol Rhwydwaith Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Pen-y-bont ar Ogwr?
Bydd aelodau’r rhwydwaith’n:
- Derbyn cylchlythyrau a e-bost briffio sy’n rhoi newyddion rheolaidd ar gyfleoedd cyllido, hyfforddiant, cynadleddau, arfer da ac ymgynghoriadau ar bolisi a strategaeth;
- Derbyn gwahoddiadau i ddigwyddiadau a grwpiau trafod a fydd yn cynnwys rhwydweithio a chyflwyniadau ar faterion sydd o ddiddordeb cyfredol;
- Cael cyfle i gymryd rhan mewn ymatebion i ymgynghoriadau sy’n ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol;
- Cael cyfle i weithredu fel cynrychiolwyr y sector gwirfoddol ar grwpiau cynllunio a strategol;
- Cael cyfle i ymuno â grwpiau diddordeb arbenigol, fforymau a grwpiau tasg i wneud argymhellion am faterion penodol.
Mae croeso i unrhyw un sy’n gweithio yn y trydydd sector sydd â diddordeb mewn iechyd, gofal cymdeithasol a lles. Cadarnheir y mannau cyfarfod trwy ddosbarthu’r cofnodion / agenda Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles i aelodau’r Rhwydwaith.
Cysylltwch â ni:
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â BAVO, T: 01656 810400 neu E: bavo@bavo.org.uk