Fel rhan o raglen Gaeaf Lles Llywodraeth Cymru, mae BAVO a BCBC yn cydweithio i sicrhau y gall grwpiau cymunedol chwarae rhan mewn cynnig ystod eang o weithgareddau yn eu cymunedau. Mae grantiau ar gael o hyd at £1500 i gefnogi grwpiau a sefydliadau cymunedol sefydledig i gynnig gweithgareddau am ddim i blant a phobl ifanc yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth 2022.
Mae’r rhaglen Gaeaf Lles yn cefnogi mwy o gyfleoedd i blant a phobl ifanc hyd at 24 oed ac mae ffocws penodol ar y bobl ifanc hynny a allai fod wedi gweld y pandemig yn fwyaf heriol. Gallai hyn gynnwys pobl ifanc sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig, y rhai sy’n byw gydag anableddau neu anghenion ychwanegol, pobl ifanc â chyfrifoldebau gofalu neu sy’n byw mewn ardaloedd anghysbell. Gallai’r gweithgareddau gynnwys chwarae, chwaraeon, gwaith ieuenctid, gweithgareddau diwylliannol neu gyfleoedd hamdden. Ni fydd grwpiau sydd eisoes wedi derbyn cymorth o’r gronfa hon yn gymwys i gael arian ychwanegol.
Dylai ymgeiswyr llwyddiannus fod yn ymwybodol y bydd Llywodraeth Cymru yn gofyn am wybodaeth ganddynt am y gweithgareddau a ddarparwyd a manylion y rhai sy’n cymryd rhan i gefnogi eu hymchwil o fuddsoddiadau’r Gaeaf Lles ledled Cymru.
Dyddiadau allweddol;
Dylid dychwelyd ceisiadau erbyn 4 pm fan bellaf ar 26 Ionawr 2022.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hysbysu erbyn 2 Chwefror 2022.