Eich cyfle i lunio’r Safonau Hyfforddiant Diogelu Cenedlaethol cyntaf erioed

Cyhoeddwyd: 10 Mai 2022
Sylwch, mae'r erthygl hon wedi dod i ben

Mae ymgynghoriad bellach ar y gweill ar Safonau Hyfforddiant Diogelu Cenedlaethol cyntaf erioed Cymru.

Mae’r safonau drafft, a ddatblygwyd yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru, wedi’u cynllunio i helpu i sicrhau bod pawb yng Nghymru sydd ei angen yn cael hyfforddiant diogelu cyson o ansawdd uchel. Yn benodol, bydd y prosiect yn sicrhau:

  • sefydliadau yn ymgorffori’r safonau ar gyfer ymarferwyr yn eu polisïau a’u gweithdrefnau diogelu
  • ymarferwyr yn deall eu cyfrifoldebau sy’n berthnasol i’r grŵp y maent ynddo a sut i ddilyn y polisïau a’r gweithdrefnau perthnasol
  • mae gan ymarferwyr fynediad at Weithdrefnau Diogelu Cymru ac yn cydymffurfio â hwy

Dywedodd Nikki Kingham, Rheolwr Busnes, Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg: “Diben y Safonau Diogelu Cenedlaethol yw sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael hyfforddiant cyson o ansawdd da sy’n berthnasol i’w rôl a’u cyfrifoldebau, ac y gallwn ni, fel ymarferwyr, ddiogelu pobl hyd eithaf ein gallu.

“Er mwyn sicrhau eu bod yn addas i’r diben, mae angen i ni glywed gan ystod mor eang â phosibl o ymarferwyr a sefydliadau a byddem yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i ymateb i’r ymgynghoriad.”

Mae dogfen ddrafft o’r Safonau Hyfforddi Diogelu Cenedlaethol bellach wedi’i chyhoeddi ar gyfer ymgynghori. Gallwch ddarllen y ddogfen ddrafft ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.

Yna gallwch ddweud eich dweud ar y drafft drwy:

Daw’r ymgynghoriad i ben ar 17 Mehefin 2022.

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi bod yn arwain y gwaith o ddatblygu’r Safonau Hyfforddiant Diogelu Cenedlaethol. Mae’r safonau wedi’u cyd-gynhyrchu gan grŵp datblygu cenedlaethol aml-asiantaeth yn ogystal â grwpiau eraill sy’n canolbwyntio ar agweddau penodol ar y gwaith.

Datblygwyd y Safonau Hyfforddiant Diogelu Cenedlaethol mewn ymateb i gydnabyddiaeth nad oes safonau cenedlaethol amlasiantaethol ar gyfer diogelu hyfforddiant ar waith; bod diffyg cysondeb o ran dylunio, cynnwys a darparu hyfforddiant diogelu ar draws sefydliadau yng Nghymru; a bod dryswch yn aml ynghylch y lefelau priodol o hyfforddiant diogelu ar gyfer y gweithlu.

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award