Dydd Mawrth 23 Mawrth 2021 rhwng 6.30 – 7.30pm
Mae pobl hŷn ledled Cymru yn cael cyfle i holi uwch wleidyddion ar y materion sydd bwysicaf iddyn nhw yn nigwyddiad Question Time Age Cymru cyn etholiad y Senedd.
Eu panel ar gyfer y noson fydd: Rhun ap Iorwerth MS (Plaid Cymru), Janet Finch-Saunders MS (y Blaid Geidwadol) a Julie Morgan MS, (y Blaid Lafur). Cadeirir y digwyddiad gan Positif Politics ’Rhodri ab Owen.
Bydd hyd at 400 o westeion hefyd yn gallu dilyn y digwyddiad yn fyw trwy Zoom felly os hoffech chi fod yno, gallwch archebu’ch lle yma.
Bydd cyfleusterau cyfieithu ar yr un pryd felly mae croeso i chi sgwrsio yn Saesneg neu Gymraeg.
Os hoffech ofyn cwestiwn i’r panel, rhowch wybod i Age Cymru. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Michael Phillips, Ff: 07739 894923 neu e-bost: michael.phillips@agecymru.org.uk