Mae prosiect ar waith i ddatblygu fframwaith i gefnogi cynllunio a dealltwriaeth well o wirfoddoli ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru.
Mae pandemig COVID-19 wedi dangos sut y gall gwirfoddolwyr, gan weithio trwy sefydliadau trydydd sector, mewn grwpiau cymunedol ac o fewn gwasanaethau statudol, gyfrannu’n ymarferol ac yn hyblyg i fynd i’r afael ag anghenion iechyd a gofal.
Yn fwy na hynny, mae ffyrdd newydd o weithio a chydweithio rhwng sefydliadau yn awgrymu sut y gallai gwirfoddoli fod hyd yn oed yn fwy effeithiol yn y dyfodol, pe bai’n cael ei gwmpasu’n briodol, ei gynllunio a’i ddarparu ag adnoddau.
Hyd yn oed cyn COVID-19, mae gwirfoddolwyr wedi bod yn cyfrannu’n weithredol at iechyd Cymru mewn cymaint o ffyrdd – mae’r fideo hwn yn crybwyll rhai ohonynt yn unig.
Hoffai Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) weld gwirfoddoli yn cael ei integreiddio’n well i gynllunio gwasanaethau, gwell adnoddau a chydnabod yn well fel rhan annatod o’r ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol prif ffrwd, ôl-bandemig. Nod y prosiect yw cyd-gynhyrchu, gyda rhanddeiliaid, adnodd i gefnogi hyn.
Cymerwch ran mewn arolwg ...
Os yw’ch sefydliad yn ymwneud â chynllunio, rheoli neu recriwtio gwirfoddoli i gefnogi darparu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, byddai WCVA yn gwerthfawrogi’ch amser yn ymateb i’w harolwg erbyn 28 Chwefror 2021.
Gallwch chi gymryd rhan yn eu harolwg yma.
Mae’r arolwg yn cynnwys gwybodaeth am sut i archebu ar grwpiau ffocws…
Sgyrsiau grŵp ar-lein yw’r rhain – wedi’u lleoli yn y saith rhanbarth – a fydd yn galluogi mynychwyr i rannu eu barn a’u profiadau o sut mae gwirfoddoli ar hyn o bryd yn cyfrannu at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a sut y gellid datblygu hyn mewn sawl ffordd.
Sylwch: mae’r manylion archebu ar ddiwedd yr arolwg.
Helplu Cymru CGGC sy’n arwain y prosiect hwn, ac mae’n gweithio gyda Chomisiwn Bevan, Gofal Cymdeithasol Cymru a Richard Newton Consulting Cyf. fel partneriaid prosiect.
Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido gan Lywodraeth Cymru o’r Grant Adfer Gwirfoddoli yn sgil y Coronafeirws 2020/21.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Fiona Liddell, E: fliddell@wcva.cymru
Mae Helpu yn gweithio gyda Cefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC a 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs)), Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu potensial gwirfoddoli i gefnogi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae’r dudalen Helplu ar ein gwefan yn cynnwys dolenni i erthyglau diweddar, blogiau, fideos ac astudiaethau achos.