Darganfyddwch sut mae natur yn eich helpu i ofalu am eich iechyd meddwl gydag Dementia Adventure

12 Mai 2021 rhwng 1.30 – 2.30pm
Sesiwn ar-lein trwy Zoom

Sesiwn am ddim ar fuddion hanfodol cysylltiad â natur ar gyfer lles meddyliol, i bobl sy’n byw gyda dementia a’u cefnogwyr.

Eleni, mae Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl (10 – 16 Mai 2021) yn canolbwyntio ar fuddion natur. I gefnogi’r gwaith pwysig hwn, mae Dementia Adventure a’r Sefydliad Iechyd Meddwl wedi ymuno i ddarparu sesiwn ar-lein am ddim sy’n edrych ar sut y gall natur eich helpu i ofalu am eich iechyd meddwl.

Mae tystiolaeth yn dangos bod mynediad at natur yn hanfodol i’n hiechyd meddwl ac fe wnaeth miliynau o bobl ailddarganfod hynny yn ystod cyfnodau cloi eleni. Mae tystiolaeth sylweddol bod cysylltiad â natur yn cynnig buddion hanfodol i bobl sy’n byw gyda dementia, megis gwell awydd, sgiliau cysgu a chyfathrebu, ynghyd â gostyngiad mewn pryder ac arafu dirywiad.

Bydd yr hyfforddiant hwn yn eich cysylltu â hyfforddwyr dementia profiadol a chefnogwyr dementia eraill. Mae’r sesiwn ryngweithiol hon ar gyfer teulu a ffrindiau sy’n cefnogi rhywun sy’n byw gyda dementia. Mae croeso mawr i bobl sy’n byw gyda dementia ymuno hefyd.

Gallwch ddarganfod gwybodaeth bellach a chofrestru’ch lle yma.

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award