Mae Cwm Garw Uchaf yn ardal o harddwch naturiol, gyda chyfleoedd da i gerdded a beicio ac i fwynhau’r dirwedd anhygoel a’r amgylchedd naturiol.
Mae Cynllun Gweithredu yn cael ei ddatblygu gan Catrin Evans Consultancy ar ran Tîm Datblygu Gwledig (Reach) Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr a Chyngor Cymuned Dyffryn Garw.
Maent yn datblygu Cynllun Gweithredu Amgylcheddol pum mlynedd ar gyfer Blaengarw a Pontycymer uchaf a hoffent glywed eich barn ar yr hyn y dylid ei gynnwys.
Ymunwch â nhw am weithdy ar-lein am 6pm, 26 Ebrill 2021 neu cwblhewch arolwg ar-lein ar Survey-Monkey trwy ddilyn y ddolen hon.
I gael rhagor o fanylion cysylltwch â c.evansconsultancy@gmail.com