Cynhadledd Ddigidol Cyflawni Cydraddoldeb Hiliol yng Nghymru

Cyhoeddwyd: 22 Hydref 2021
Sylwch, mae'r erthygl hon wedi dod i ben

Cynhadledd Ddigidol ‘Cyflawni Cydraddoldeb Hiliol yng Nghymru: Mynediad, Cynrychiolaeth a Chynhwysiant yn y Gweithle’ Senedd Insight
Darlledwyd yn fyw – Dydd Gwener 22 Hydref 2021 rhwng 9.30am a 3.35pm

Bydd y gynhadledd yn archwilio uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru wrthhiliol erbyn 2030, y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol (REAP) a sut y gall sefydliadau’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector greu gweithleoedd gwrth-hiliol.

Byddwch yn dysgu sut i gynyddu mynediad i gyflogaeth, ysgogi cynrychiolaeth ethnig yn y gweithle a meithrin diwylliannau perthyn.

Siaradwyr a gadarnhawyd:

  • Yr Athro Emmanuel Ogbonna, Athro Rheolaeth a Threfniadaeth a Chyd-gadeirydd, Prifysgol Caerdydd a Chynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Cymru (REAP);
  • Usha Ladwa-Thomas, Swyddog Polisi a Chynghorydd cydraddoldeb hiliol, Llywodraeth Cymru;
  • Humie Webbe, Arweinydd Cydraddoldeb Strategol ac Amrywiaeth, Ffederasiwn Cenedlaethol Hyfforddiant Cymru;
  • Tanya Nash, Pennaeth Polisi, Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;
  • Lesley Richard, Pennaeth Cymru, CIPD;
  • Andrea Cleaver, Prif Swyddog Gweithredol, Cyngor Ffoaduriaid Cymru;
  • Abyd Quinn-Aziz, Cyfarwyddwr y Rhaglen Gwaith Cymdeithasol ac Aelod o’r Grŵp Llywio, Prifysgol Caerdydd a Chynghrair Hil Cymru;
  • Dr Hade Turkmen, Partner Ymchwil, Chwarae Teg.

Manteision mynychu:

  • Ymgorffori gwrth-hiliaeth ar draws sefydliadau i fynd i’n afael â gwahaniaethu, gwahaniaethau a phrofiadau negyddol gweithwyr;
  • Mabwysiadu dull EDI a arweinir gan ddata i wneud cynnydd o ran targedau a nodau cydraddoldeb hiliol;
  • Gwella hygyrchedd cyfleoedd gwaith i gynyddu amrywiaeth pyllau ymgeiswyr;
    Ymarfer recriwtio cynhwysol i ysgogi cynrychiolaeth o leiafrifoedd ethnig ym mhob rhan o’r sefydliad;
  • Creu gweithleoedd cynhwysol i feithrin diwylliannau o amrywiaeth, allyship a pherthyn.

Gallwch lawrlwytho eu hagenda yma

Gallwch archebu eich lle yma

Talwch ar-lein a derbyn 10% arall i ffwrdd.

 

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award