Cylch ychwanegol o gyllid Cynhwysiant Gweithredol

Cyhoeddwyd: 2 Mawrth 2021
Sylwch, mae'r erthygl hon wedi dod i ben

Mae CGGC yn falch o gyhoeddi bod cylch newydd o gyllid Cynhwysiant Gweithredol bellach ar agor ar Borth Ymgeisio Amlbwrpas (MAP) CGGC gyfer sefydliadau ar y Rhestr Buddiolwyr Cymeradwy.

Y dyddiad cau ar gyfer y rownd hon yw 1 Mis Ebrill 2021. Rhagwelir y bydd prosiectau a gymeradwywyd yn y cylch hwn yn dechrau ddechrau mis Awst 2021 ac y byddant yn gallu rhedeg hyd at 30 Medi 2022.

Noder nad oes unrhyw geisiadau’n cael eu gwahodd yn y cylch hwn ar gyfer y cronfeydd ‘Ieuenctid’ Cynhwysiant Gweithredol. Fodd bynnag, bydd cylch ariannu Cynhwysiant Gweithredol pellach yn cael ei lansio ddechrau mis Mai 2021.
Bydd y cylch hwn yn cynnwys categorïau ‘Gorllewin Cymru a’r Cymoedd – Ieuenctid’ a ‘Dwyrain Cymru – Ieuenctid’ ochr yn ochr â chyfleoedd pellach i wneud cais am gyllid ar gyfer prosiectau sy’n dod o fewn manylebau ‘Gorllewin Cymru a’r Cymoedd – 25+’ a ‘Dwyrain Cymru – 25+’.

Rhagwelir y bydd prosiectau a gymeradwywyd yn y cylch hwn yn dechrau ddechrau mis Hydref 2021 ac y byddant yn gallu rhedeg hyd at 30 Medi 2022.

Gallwch ddarganfod mwy o fanylion a sut i wneud cais yma

Chwilio am gyllid ar gyfer eich prosiect neu sefydliad?…. cliciwch ar ein platfform chwilio am gyllid ar gyfer y trydydd sector yng Nghymru!

Mae ein gwefan ariannu Funding Wales a lansiwyd gan Third Sector Support Wales, yn helpu sefydliadau trydydd sector i ddod o hyd i gyllid.

I ddechrau chwilio am gyfleoedd cyllido, ewch i funding.cymru

 

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award