Cyfres o raglenni Arweinwyr Cymdeithasol Cymru bellach ar agor ar gyfer ceisiadau!

Cyhoeddwyd: 24 Mehefin 2021
Sylwch, mae'r erthygl hon wedi dod i ben

Dyddiadau amrywiol yn 2021 a 2022.

Rhaglen sgiliau a datblygu wedi’i hariannu yw hon i helpu i adfer y trydydd sector yng Nghymru.

Wedi’i ddarparu gan Clore Social Leadership mewn partneriaeth â Chanolfan Cydweithredol Cymru, Arweinwyr Cymdeithasol Cymru fydd y rhaglen sgiliau a datblygu ar-lein gyntaf i ddod â’r trydydd sector at ei gilydd ledled Cymru.

Yn ei dro, bydd hyn yn helpu i adfer y sector o Covid-19 drwy wella gwydnwch, cryfhau cymunedau a chynyddu amrywiaeth arweinwyr.

Cyfres rhaglen Arweinwyr Cymdeithasol Cymru:

Arweinydd Newydd Cymru
Arweinydd Profiadol Cymru
Rheolwr Newydd Cymru
Arweinydd Digidol Cymru
Arweinydd Bwrdd Cymru

Pwy all wneud cais?
Bydd rhaglenni unigol sy’n benodol i rôl yn datblygu sgiliau a galluoedd arwain staff cyflogedig a gwirfoddol sydd â lefelau amrywiol o brofiad o fewn sefydliadau mawr a bach. Mae hyn yn cynnwys unigolion sy’n gweithio mewn elusennau, mentrau cymdeithasol, sefydliadau llawr gwlad, prosiectau cymunedol, gwasanaethau cymdeithasol neu ym meysydd cyfiawnder cymdeithasol a newid cymdeithasol.

Gwnewch gais heddiw!

Mae hwn yn gyfle gwych i dderbyn gwerth miloedd o bunnoedd o hyfforddiant a datblygiad rheoli ac arweinyddiaeth am ddim, diolch i gyllid hael gan Sefydliad Garfield Weston a Sefydliad Moondance. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Arweinwyr Cymdeithasol Cymru.

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award