Rheolwr Prosiect Caerau – £30000 y.a 37 Awr yr wythnos, contract hyd at Ebrill 2023
Mae CIC y Cymoedd Gwyrdd yn Gwmni Buddiannau Cymunedol sydd wedi ennill sawl gwobr sy’n ysbrydoli ac yn cefnogi gweithredu amgylcheddol cymunedol. Dyfarnwyd cyllid iddynt gan yr UE a Llywodraeth Cymru i helpu i adeiladu ar eu prosiect peilot Skyline llwyddiannus, gyda phrosiect newydd wedi’i leoli yng Nghaerau. Dylai fod gan ymgeiswyr brofiad fel rheolwr prosiect, yn ogystal â dealltwriaeth o’r ardal leol.
Dylid gwneud y cais drwy CV, ynghyd â llythyr eglurhaol cysylltiedig.
Am ragor o fanylion, gan gynnwys disgrifiad swydd a manyleb y person, cysylltwch â Gareth Ellis ar gareth.ellis@thegreenvalleys.org neu ffoniwch 01874 611039.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 9am dydd Llun 17 Ionawr 2022.