Mae rownd gyntaf y Gronfa Radio Cymunedol 2021-22 ar agor ar gyfer ceisiadau o orsafoedd cymwys a bydd yn cau am 5pm ddydd Gwener 25 Mehefin 2021.
Mae trwyddedigion sydd â thrwydded Rhaglen Sain Ddigidol Gymunedol (C-DSP) yn gymwys i wneud cais am y Gronfa os yw’r orsaf yn darlledu ar amlblecs radio digidol ar ddyddiad eu cais.
Dim ond i orsafoedd radio cymunedol trwyddedig Ofcom yn y DU y gellir rhoi grantiau, gan ddarlledu ar AM, FM, neu drwy drwydded C-DSP ar amlblecs radio digidol.
Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth a sut i wneud cais yma
Mae ein gwefan ariannu Funding Wales a lansiwyd gan Third Sector Support Wales, yn helpu sefydliadau trydydd sector i ddod o hyd i gyllid.
I ddechrau chwilio am gyfleoedd cyllido, ewch i funding.cymru