Mae rownd 1 cynllun Cymru ac Affrica 2022-25 bellach ar agor i ymgeiswyr
Mae’r cynllun yn galluogi grwpiau cymunedol a mudiadau yng Nghymru i gael gafael ar gyllid ar gyfer prosiectau bach sy’n cyfrannu at waith Cymru o gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig a chyflwyno buddion i Gymru ac Affrica.
Yn gweithio gyda phartneriaid o Affrica Is-Sahara, gall mudiadau wneud cais am gyllid rhwng £1,000-£25,000 a rhaid iddynt wneud cyfraniad diriaethol at o leiaf un o’r pedair themâu isod:
- Iechyd
- Dysgu Gydol Oes
- Y Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd
- Bywoliaeth gynaliadwy
Sicrhewch eich bod wedi darllen y ddogfen ganllaw ar wefan CGGC cyn dechrau eich cais am gyllid.
Cam | Dyddiad | Manylion |
Cynllun grant ar agor am geisiadau | 3 Mai 2022 | Mae’r broses ar gyfer ceisiadau cyllido yn fyw ar Borth Ymgeisio Amlbwrpas pwrpasol CGGC (MAP). |
Dyddiad cau cyntaf ar gyfer cyflwyno | 24 Gorffennaf 2022 | Ni fydd modd cyflwyno ceisiadau ar ôl y dyddiad cau hwn. |
Cyfarfod Panel | Yr wythnos sy’n dechrau ar 15 Awst 2022 | Cymeradwyo ceisiadau a fydd yn cael eu cyllido yn ffurfiol. |
Rhoi gwybod i ymgeiswyr | 22 Awst 2022 | Llythyrau cynnig grant yn cael eu hanfon at geisiadau llwyddiannus. |
Dyddiad dechrau cynharaf prosiectau | 1 Medi 2022 |
Y RHEINI SYDD WEDI DERBYN GRANT
Enghraifft o un a gafodd ddyfarniad cyn hyn yw’r ‘Niokolo Network’. Mae’n gweithio gyda chymunedau sy’n byw ar gyrion Parc Cenedlaethol Niokolo-Koba yn Senegal i geisio deall y problemau sy’n effeithio ar eu bywydau’n well drwy eu llygaid nhw. Mae’r ‘Niokolo Network’ yn cyd-ddatblygu prosiectau a arweinir gan bobl leol er mwyn cyflawni pentrefi iach ac amgylchedd iach.
Cafodd y ‘Niokolo Network’ £4,623 yng nghylch 4 y cynllun grant Cymru ac Affrica i weithio gyda phartner-fudiadau yn Senegal i gynorthwyo pobl sy’n byw mewn pentrefi gwledig o gylch Parc Cenedlaethol Niokolo-Koba i gael eu tystysgrifau geni.
Gweithiodd y prosiect gyda thri phentref â thair ysgol gynradd bentref. Yn y flwyddyn y cynhaliwyd y prosiect hwn, roedd gan yr ysgolion hyn 127, 108, a 457 o ddisgyblion yn ôl eu trefn. Cyn y prosiect, nid oedd gan 208 o ddisgyblion dystysgrif geni a byddent wedi gorfod rhoi’r gorau i fynd i’r ysgol cyn cymryd eu harholiad diwedd oed cynradd.
MWY O WYBODAETH
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch y broses ymgeisio, anfonwch e-bost at neu ffoniwch 0300 111 0124.
I gael cymorth i ddatblygu’ch cais, cysylltwch ag enquiries@hubcymruafrica.org.uk.