Comisiwn Bevan yn lansio ymgyrch ‘Uchod a Thu Hwnt’

Cyhoeddwyd: 25 Ionawr 2021
Sylwch, mae'r erthygl hon wedi dod i ben

Mae Comisiwn Bevan yn lansio ymgyrch newydd i ddangos cefnogaeth a diolchgarwch i ymdrechion pobl sy’n mynd ‘uwchlaw a thu hwnt’ yn ystod pandemig Covid 19.

Bydd yr ymgyrch yn galluogi pobl i rannu negeseuon personol i gydnabod ymdrech ac ymroddiad anhygoel gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol wrth ofalu am bobl ledled Cymru.

Bydd hefyd yn dangos cefnogaeth a diolch i bawb arall sy’n mynd yr ail filltir ac yn gwneud gwahaniaeth mawr yn ystod yr amseroedd anodd iawn hyn gan gynnwys gweithwyr rheng flaen allweddol, cymunedau a’r cyhoedd eu hunain.

Sut i gymryd rhan …

Bydd yr ymgyrch yn cael ei rhedeg ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y Comisiwn (Twitter a LinkedIn) gan ddefnyddio’r hashnod #AboveandBeyond.

I gael mwy o wybodaeth ac adnoddau am yr ymgyrch #AboveandBeyond ewch i wefan Comisiwn Bevan www.bevancommission.org/above-and-beyond  a dilynwch ar Twitter @BevanCommission.

Am fanylion pellach cysylltwch ag Alison Watkins yn y tîm cyfathrebu, Ff: 07854 386054 neu e-bostiwch: info@alisonwatkinscommunications.com

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award