Cynigir coed ffrwythau am ddim ar gyfer mannau cymunedol yng Nghaerdydd, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr i greu eu perllan eu hunain.
Mae’r mannau cymunedol hyn yn cynnwys ysgolion, lleoliadau addysgol, hybiau, gerddi a rhandiroedd, os oes ganddynt ddigon o le i blannu ychydig o goed.
Ynghyd â choed ffrwythau am ddim, byddwch yn derbyn hyfforddiant i’ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd dysgu a phrofiad y bydd y berllan newydd yn eu cynnig.
I gofrestru, dilynwch y ddolen i roi eich manylion ac ateb ychydig o gwestiynau.