Chwilotwr cyllid am ddim i sector gwirfoddol Cymru

Cyhoeddwyd: 4 Mawrth 2021
Sylwch, mae'r erthygl hon wedi dod i ben

Bydd Cyllido Cymru yn cynorthwyo i gysylltu elusennau, grwpiau cymunedol a mentrau cymdeithasol yng Nghymru â’r cyllid sydd ei angen arnynt.

Mae Cyllido Cymru yn declyn am ddim i gynorthwyo mudiadau gwirfoddol i ddod o hyd i gyllid i’w hachos.

Mae’r wefan, a grëwyd gan Cefnogi Trydydd Sector Cymru, yn galluogi elusennau, grwpiau cymunedol a mentrau cymdeithasol yng Nghymru i ddod o hyd i gyllid trwy ddefnyddio chwilotwr ar-lein rhad ac am ddim.

Gallwch chwilio trwy gannoedd o gyfleoedd cyllid grant neu fenthyciad o ffynonellau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, o grantiau bychain i brosiectau cyfalaf mawrion.

I fanteisio ar y chwilotwr cyllid, cofrestrwch gyda cyllido cymru Mae Cyllido Cymru yn rhad ac am ddim i’w ddefnyddio i unrhyw un sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli yn y sector gwirfoddol yng Nghymru.

Os oes angen help arnoch i gofrestru, mae Swyddogion Datblygu BAVO yn hapus i’ch helpu chi, ffoniwch 01656 810400 neu e-bostiwch: bavo@bavo.org.uk

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award