Chweched rownd y Cynllun Cymunedau Treth Gwaredu Tirlenwi bellach ar agor

Cyhoeddwyd: 9 Mehefin 2021
Sylwch, mae'r erthygl hon wedi dod i ben

Yn agored i geisiadau 00:01 2 Mehefin 2021 ac yn cau 23:59 31 Awst 2021.

Mae chweched rownd y Cynllun Cymunedau Treth Gwarediadau Tirlenwi (LDTCS) bellach yn agored i geisiadau am grantiau rhwng £ 5,000 – £ 49,000. Rhaglen ariannu grantiau i helpu cymunedau sy’n byw o fewn pum milltir i rai gorsafoedd trosglwyddo gwastraff neu safleoedd tirlenwi i weithredu dros eu hamgylchedd lleol.

Mae cyllid ar gael ar gyfer prosiectau sy’n cychwyn erbyn 25 Hydref fan bellaf ac yn dod i ben erbyn 31 Mawrth 2023 fan bellaf.

Mae’r Cynllun Cymunedau Treth Gwarediadau Tirlenwi (LDT) yn rhaglen ariannu Llywodraeth Cymru a reolir gan WCVA. Mae’r cynllun yn cefnogi prosiectau cymunedol ac amgylcheddol lleol mewn ardaloedd yr effeithir arnynt gan waredu gwastraff i’w dirlenwi.

Bydd y gronfa ar agor i unrhyw sefydliad ar gyfer prosiectau sy’n canolbwyntio ar un neu fwy o’r themâu canlynol:

Bioamrywiaeth – creu rhwydweithiau ecolegol gwydn er budd ystod o gynefinoedd a rhywogaethau:

  • Gwella amodau i helpu rhywogaethau brodorol, peillwyr a darparu cyfleoedd ar gyfer plannu newydd;
  • Adfer, cynnal a gwella cynefinoedd naturiol;
  • Ymgysylltu a chefnogi cyfranogiad a dealltwriaeth i wreiddio bioamrywiaeth.

Lleihau gwastraff a dargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi – hyrwyddo ymwybyddiaeth ac arfer gorau i leihau faint o wastraff a gynhyrchir:

  • Annog atal, ailddefnyddio, adfer ac ailgylchu gwastraff;
  • Lleihau gwastraff bwyd a chefnogi mentrau fel compostio;
  • Ymgysylltu a chefnogi dealltwriaeth i alluogi gwastraff i gael ei ystyried yn adnodd.

Gwelliannau amgylcheddol ehangach – dod â budd cymunedol ehangach trwy wella ansawdd lle:

  • Creu mannau gwyrdd cymunedol a chefnogi seilwaith gwyrdd;
  • Dod ag ardaloedd sydd wedi’u hesgeuluso a’u dirywio yn ôl i ddefnydd y gymuned;
  • Cynnal neu wella cyfleusterau cymunedol, er enghraifft neuaddau cymunedol.

Darganfyddwch fwy a gwnewch gais yma.


Chwilio am gyllid ar gyfer eich prosiect neu sefydliad?…. cliciwch ar ein platfform chwilio am gyllid ar gyfer y trydydd sector yng Nghymru!

Mae ein gwefan ariannu Funding Wales a lansiwyd gan Third Sector Support Wales, yn helpu sefydliadau trydydd sector i ddod o hyd i gyllid.

I ddechrau chwilio am gyfleoedd cyllido, ewch i funding.cymru

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award