Ar hyn o bryd maent yn edrych i recriwtio ymddiriedolwyr newydd, nid yn unig y rhai sydd â diddordeb mewn materion gofalwyr a chefnogaeth i Bridgend Carers Centre, ond yn enwedig y rhai sydd â’r sgiliau a’r profiad busnes canlynol: cyllid, marchnata, codi arian, iechyd a diogelwch a gweithio mewn tîm.
Os oes gennych ddiddordeb yn unrhyw un o’r rhain, neu wybodaeth amdanynt, byddai croeso i chi wneud cais. Mae arnynt angen pobl a all helpu Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr tuag at gyflawni ei gweledigaeth a sicrhau bod y sefydliad yn cael ei reoli’n effeithiol.
Byddai angen i chi allu ymrwymo i Ganolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr ac yn anad dim, ymrwymo i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau gofalwyr ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae parodrwydd i gefnogi datblygiad y Ganolfan Gofalwyr yn y dyfodol, diddordeb mewn materion gofalwyr a pharodrwydd i fynegi syniadau yn hanfodol.
Bydd profiad blaenorol o weithio mewn pwyllgor yn ddymunol.
Byddant yn talu costau teithio ymddiriedolwyr ac yn darparu sesiwn sefydlu i waith a hyfforddiant Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr os bydd angen.
E-bost: enquiries@bridgendcarers.co.uk os oes gennych ddiddordeb mewn swydd fel ymddiriedolwr ac i ofyn am ffurflen gais, neu ffoniwch 01656 65847.