Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn penodi Aelod Annibynnol (Busnes Cyffredinol / Corfforaethol)

Cyhoeddwyd: 8 Gorffennaf 2021
Sylwch, mae'r erthygl hon wedi dod i ben

Dyddiad cau: 4pm, 3 Awst 2021
Dyddiad y cyfweliad: 20 Medi 2021

Bydd yn ofynnol i’r Aelod Annibynnol newydd gymryd rhan fel aelod llawn o’r Bwrdd sy’n pennu’r strategaeth ar gyfer y sefydliad. Yn ogystal, bydd disgwyl i chi herio’n adeiladol, cymryd rhan weithredol ym proses gwneud penderfyniadau’r Bwrdd, a chraffu ar berfformiad y Bwrdd Gweithredol o ran cyflawni nodau ac amcanion y cytunwyd arnynt.

Bydd Aelodau Annibynnol ymhlith pethau eraill:

  • Chwarae rhan lawn a gweithgar yn y ffordd y caiff y Bwrdd Iechyd ei reoli, yn glinigol ac yn gorfforaethol.  Byddwch yn cymryd rhan weithredol mewn trafodaethau, gan gynnig eich barn a herio a chefnogi’r Bwrdd ar faterion allweddol;
  • Gweithredu fel Ymddiriedolwr Corfforaethol Elusen Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
    Cyfrannu at waith y Bwrdd yn seiliedig ar eich annibyniaeth, eich profiad yn y gorffennol a’ch gwybodaeth, a’ch gallu i gymryd cam yn ôl o’r gwaith rheoli gweithredol o ddydd i ddydd;
  • Cyfrannu at benderfyniadau corfforaethol a’u derbyn, er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn gwneud penderfyniadau cydgysylltiedig, cadarn a thryloyw;
  • Dod, ymhen amser, i ddeall y sefydliad yn llawn drwy gymryd rhan weithredol, er mwyn galluogi’r sefydliad i weithredu’n effeithiol;
  • Bod yn gefnogol i’r angen i weithio’n agos gyda chyrff preifat, gwirfoddol a chyhoeddus eraill a sicrhau bod safbwyntiau cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn cael eu cynnwys yn llawn er mwyn helpu i siapio, datblygu a gwella gwasanaethau;
  • Dadansoddi ac adolygu gwybodaeth gymhleth mewn modd beirniadol a chyfrannu at benderfyniadau cadarn;
  • Disgwylir iddynt gefnogi Gwerthoedd ac Ymddygiadau’r Bwrdd Iechyd, gan ‘fyw’ y gwerthoedd yn eu rôl fel Aelod o’r Bwrdd.
    Gallu cyfrannu at brosesau llywodraethu ac ariannu y Bwrdd Iechyd, gan sicrhau ei fod yn agored ac yn onest yn ei waith drwy gyfrannu’n llawn at y broses o wneud penderfyniadau.

Sgiliau Cymraeg yn hanfodol.

Gallwch gael rhagor o fanylion a sut i wneud cais yma

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award