Mae Alison Pritchard, Rheolwr Cyllid Cynaliadwy CGGC, yn edrych ar y symudiad diweddar gan Lywodraeth Cymru at grantiau mwy hirdymor a beth mae hyn yn ei olygu i fudiadau gwirfoddol.

Ar ddechrau mis Ebrill, cyhoeddodd Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu grantiau mwy hirdymor bellach. Mae hwn yn newid cadarnhaol i’r sector gwirfoddol, ond sut cafodd y sector ei gynnwys yn y gwaith o ddatblygu’r polisi hwn? A sut bydd yn gweithio’n ymarferol?

PLEDIO’R ACHOS DROS GYLLID MWY HIRDYMOR

Mae’r sector gwirfoddol yng Nghymru wedi bod yn galw am gyllid grant mwy hirdymor gan Lywodraeth Cymru (a darparwyr grant eraill) ers blynyddoedd. Yn fwy diweddar, amlygodd CGGC effaith trefniadau cyllido tymor byr yn ein Cyllid Cynaliadwy ar gyfer y Trydydd Sector: Diweddariad 2021, a nododd adroddiad Uchel ac yn Groch Sefydliad Cymunedol Cymru yn 2020 ei fod (ynghyd â diffyg cyllid craidd) yn fater o bryder mawr.

Mae cyllid tymor byr yn rhoi pwysau ar fudiadau gwirfoddol o ran recriwtio a chadw staff, mae llai o gapasiti oherwydd yr amser a dreulir ar lenwi ceisiadau blynyddol dro ar ôl tro ac ni ellir cynllunio ar gyfer yr hirdymor.

BETH SY’N NEWID?

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu bellach ar bryderon y sector. Cyhoeddodd Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yn ddiweddar y bydd Llywodraeth Cymru yn symud i drefniadau cyllido mwy hirdymor.

Bydd gan raglenni grant sy’n dechrau ar ôl 1 Ebrill 2022 yr opsiwn bellach (yn dibynnu ar y maes polisi a’r hyn sy’n fwyaf priodol) i redeg am gyfnod cychwynnol o hyd at dair blynedd, gyda’r posibilrwydd o gael eu hymestyn am dair blynedd arall ar ben hynny. Golyga hyn bod potensial nawr i fudiadau gael eu cyllido am gyfanswm o hyd at chwe blynedd.

YMRWYMIAD I’W GROESAWU

Mae CGGC a Chyngor Partneriaeth y Trydydd Sector (TSPC) yn croesawu’r cam ymlaen cadarnhaol hwn ym mhroses llunio grantiau Llywodraeth Cymru yn fawr iawn.

Yn ei llythyr at TSPC yn cadarnhau’r dull gweithredu newydd hwn a fydd yn cael ei roi ar waith, diolchodd Jane Hutt i aelodau ‘…am [eich] cymorth ac ymgysylltiad parhaus â’r gwaith sydd ar droed i ddatblygu a gweithredu’r gwelliannau hyn i’n prosesau cyllid grant.

‘Gwelliannau yr wyf yn gwybod a fydd yn cyfrannu at sicrhau bod pob ceiniog o gyllid yn cyfrif ac yn dod â chyfoeth o fuddion i fywydau unigolion a’n cymunedau lleol yng Nghymru.’

SICRHAU EI FOD YN GWEITHIO I FUDIADAU GWIRFODDOL

Mae Is-bwyllgor Cyllid a Chydymffurfio’r TSPC wedi bod yn allweddol yn y gwaith o ddatblygu’r newid hwn. Gwnaeth Canolfan Ragoriaeth Grantiau Llywodraeth Cymru ymgynghori â’r is-bwyllgor ar y cynnig cychwynnol a’r canllawiau y bydd Rheolwyr Grant Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio i roi’r ffordd hon o weithio ar waith.

Bydd y dull gweithredu newydd hwn yn gymwys i sectorau preifat a chyhoeddus, yn ogystal â’n sector ni’n hunain, felly rhan allweddol o waith yr is-bwyllgor oedd sicrhau y bydd yn gweithio cystal i’r sector gwirfoddol ac y bydd i eraill.

Ar ôl y cyfnod grant cychwynnol, mae’n bosibl y bydd angen i fudiadau fynd trwy broses meincnodi cyn y bydd cyfnod pellach o gyllid yn cael ei gytuno. Gwnaeth yr is-bwyllgor helpu i egluro’r hyn a olygwyd wrth feincnodi ac i sicrhau y bydd gofynion yr adolygiad hwn yn cael eu hegluro’n llwyr yn ystod cam ymgeisio’r holl broses grant.

Yn wir, prif ffocws yr is-bwyllgor yn ystod y broses hon, ac wrth fonitro sut mae’r trefniadau hyn yn gweithio’n ymarferol, yw sicrhau bod cyfathrebu rheolaidd rhwng rheolwyr grant a deiliaid grant.

GWAITH I’W WNEUD O HYD

Er cymaint y croesawir y newid hwn, rydyn ni hefyd yn sylweddoli y bydd rhai o’r sector yn poeni ynghylch sut bydd yn gweithio’n ymarferol. Bydd yr Is-bwyllgor Cyllid a Chydymffurfio yn ‘cadw llygad’ ar sut mae’r dull newydd hwn yn cael ei roi ar waith a bydd bob amser yn croesawu adborth gan fudiadau ar sut brofiad yw’r broses, yn enwedig yr adolygiadau meincnodi.

Yn y cyfnod cynnar hwn, rydyn ni’n sylweddoli mai un canlyniad anfwriadol o’r dull gweithredu hwn yw y bydd llai o gyfleoedd i ymgeisio am grantiau os ydyn nhw dim ond ar agor am geisiadau bob chwe blynedd (ar y mwyaf), ac rydyn ni wedi amlygu hyn gyda’r Ganolfan Ragoriaeth Grantiau.

GWNEUD CYFLEOEDD AM GYLLID YN EGLUR

Un lliniariad sydd wedi’i awgrymu yw sicrhau bod holl gyfleoedd cyllido Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector gwirfoddol yn cael eu rhestru ar Cyllido Cymru (sydd â mwy na 14,000 o ddefnyddwyr cofrestredig bellach). Rydyn ni wedi dechrau’r sgwrs hon gyda Llywodraeth Cymru a byddwn ni’n parhau i geisio gwireddu hyn.

Rydyn ni hefyd yn gwybod y bydd y ffordd y caiff y broses feincnodi ei rhoi ar waith yn dyngedfennol ac rydyn ni eisiau sicrhau y bydd yn deg ac yn hyblyg i dderbynyddion grant, gan hefyd ddarparu’r wybodaeth gadarn sydd ei hangen ar gyllidwyr.

CAMAU NESAF

Ffocws nesaf yr is-bwyllgor fydd gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddiweddaru’r Cod Ymarfer ar gyfer Cyllido’r Trydydd Sector. Mae’r cod yn nodi’r prif egwyddorion a fydd yn sail i gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector gwirfoddol a’r hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddisgwyl gan y sector yn gyfnewid am hyn. Gyda dechreuad y trefniadau cyllido newydd hyn, bydd angen diweddaru’r cod.

Ar hyn o bryd, mae’r cod yn ganllaw i fudiadau llunio grantiau ar gyfer datblygu eu rhaglenni grant, a gellir hefyd ei ddefnyddio gan fudiadau gwirfoddol i sicrhau bod llunwyr grant yn cadw at safonau arferion gorau.

Byddwn ni’n manteisio ar y cyfle hwn i sicrhau bod y cod yn hygyrch i’r sector gwirfoddol ac yn adlewyrchu eu hanghenion. Cadwch lygad am gyfleoedd ymgysylltu ynghylch hyn gan CGGC yn y misoedd i ddod

Eich cyfle i lunio’r Safonau Hyfforddiant Diogelu Cenedlaethol cyntaf erioed

Mae ymgynghoriad bellach ar y gweill ar Safonau Hyfforddiant Diogelu Cenedlaethol cyntaf erioed Cymru.

Mae’r safonau drafft, a ddatblygwyd yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru, wedi’u cynllunio i helpu i sicrhau bod pawb yng Nghymru sydd ei angen yn cael hyfforddiant diogelu cyson o ansawdd uchel. Yn benodol, bydd y prosiect yn sicrhau:

  • sefydliadau yn ymgorffori’r safonau ar gyfer ymarferwyr yn eu polisïau a’u gweithdrefnau diogelu
  • ymarferwyr yn deall eu cyfrifoldebau sy’n berthnasol i’r grŵp y maent ynddo a sut i ddilyn y polisïau a’r gweithdrefnau perthnasol
  • mae gan ymarferwyr fynediad at Weithdrefnau Diogelu Cymru ac yn cydymffurfio â hwy

Dywedodd Nikki Kingham, Rheolwr Busnes, Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg: “Diben y Safonau Diogelu Cenedlaethol yw sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael hyfforddiant cyson o ansawdd da sy’n berthnasol i’w rôl a’u cyfrifoldebau, ac y gallwn ni, fel ymarferwyr, ddiogelu pobl hyd eithaf ein gallu.

“Er mwyn sicrhau eu bod yn addas i’r diben, mae angen i ni glywed gan ystod mor eang â phosibl o ymarferwyr a sefydliadau a byddem yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i ymateb i’r ymgynghoriad.”

Mae dogfen ddrafft o’r Safonau Hyfforddi Diogelu Cenedlaethol bellach wedi’i chyhoeddi ar gyfer ymgynghori. Gallwch ddarllen y ddogfen ddrafft ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.

Yna gallwch ddweud eich dweud ar y drafft drwy:

Daw’r ymgynghoriad i ben ar 17 Mehefin 2022.

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi bod yn arwain y gwaith o ddatblygu’r Safonau Hyfforddiant Diogelu Cenedlaethol. Mae’r safonau wedi’u cyd-gynhyrchu gan grŵp datblygu cenedlaethol aml-asiantaeth yn ogystal â grwpiau eraill sy’n canolbwyntio ar agweddau penodol ar y gwaith.

Datblygwyd y Safonau Hyfforddiant Diogelu Cenedlaethol mewn ymateb i gydnabyddiaeth nad oes safonau cenedlaethol amlasiantaethol ar gyfer diogelu hyfforddiant ar waith; bod diffyg cysondeb o ran dylunio, cynnwys a darparu hyfforddiant diogelu ar draws sefydliadau yng Nghymru; a bod dryswch yn aml ynghylch y lefelau priodol o hyfforddiant diogelu ar gyfer y gweithlu.

GYRWYR HŶN: AR ÔL I’R OLWYNION BALLU

Mae CADR, y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia, ar hyn o bryd yn cefnogi’r ymgyrch “Gyrwyr Hŷn: Ar ôl i’r Olwynion Ballu”, sy’n ceisio cynyddu ymwybyddiaeth o’r diffyg cefnogaeth ac arweiniad i yrwyr hŷn ar ôl iddynt gael gwybod bod yn rhaid iddynt roi’r gorau i yrru neu wedi gwneud eu penderfyniad eu hunain i ildio eu trwydded.

Tra’n ymgymryd â’i PhD rhwng 2014 – 2019, dechreuodd Dr. Amy Murray, ymchwilydd yn CADR drafod anawsterau cefnogaeth anffurfiol i bobl hŷn sydd bellach ddim yn gallu gyrru. O fewn y traethawd hir, sonia Dr Murray am sut mae cenhedlaeth fwy egnïol o oedolion hŷn wedi arwain at orwelion ehangach, a lefel uwch o symudedd ac anghenion teithio. “Roedd gan 64 y cant o bobl 70 oed a hŷn drwydded yrru lawn y DU yn 2017, o gymharu â dim ond 39 y cant ym 1997.”

Mae corff mawr o ymchwil wedi canfod cysylltiad cadarnhaol rhwng symudedd a statws iechyd yn hwyrach mewn bywyd, gyda’r rhai sy’n gallu diwallu eu hanghenion symudedd yn annibynnol yn adrodd am lefelau uwch o lesiant, ac ansawdd bywyd cyffredinol. Er hynny, yr hyn sy’n ddiffygiol yw gwybodaeth am y rhai nad ydynt bellach yn gallu gyrru. Ymchwilia astudiaeth Dr Murray i drafodaeth y mae dirfawr angen amdani ynghylch yr hyn sy’n digwydd nesaf a sut mae methu â gyrru yn effeithio nid yn unig ar y person hŷn dan sylw, ond ar y rheiny y mae’n rhaid iddynt ddod yn gymorth anffurfiol i’r bobl hynny, ac ni ddylid anghofio am y bobl nad oes ganddynt deulu a ffrindiau, ac sydd heb unrhyw gefnogaeth o gwbl.

Ar 15 Medi 2021, i gyd-fynd â “Wythnos Ymwybyddiaeth Gyrwyr Hŷn”, gofynnodd cyflwynydd BBC Radio Wales, Jason Mohammed, i’w wrandawyr a yw oedran yn gwneud gwahaniaeth i’r ffordd yr ydym yn ymddwyn y tu ôl i’r olwyn ac a ddylai’r boblogaeth yrru sefyll ail-brawf pan fyddant yn cyrraedd oedran penodol. Rhannodd aelod CADR Carol Beaumont ei phrofiad o yrru, gan deimlo ei bod yn yrrwr llawer mwy diogel na’r rhai o’i chwmpas. Cyfrannodd Dr Murray hefyd at y sgwrs yn sôn am y broses o roi’r gorau i yrru i bobl hŷn gan arwain at thema o golled, gyda phobl yn profi lleihad yn eu hunaniaeth. Dywedodd hefyd fod bod yn yrrwr hŷn yn allweddol i annibyniaeth. Er bod hon yn sioe fywiog a diddorol iawn, mae eto yn agor y drafodaeth o amgylch beth ddaw nesaf?

Bydd CADR yn lansio ei bodlediad cyntaf gyda chymysgedd o negeseuon gan Dr Amy Murray a phobl hŷn yng Nghymru, a fydd yn siarad am eu profiadau o’r hyn sy’n digwydd ar ôl i oedolion hŷn roi’r gorau i yrru, gyda chyngor gan weithwyr proffesiynol a chamau y dylid eu cymryd i sicrhau pan fydd person yn rhoi’r gorau i’w trwydded, bod canllawiau llawn gwybodaeth ar gael ar gyfer cymorth, nid yn unig i’r rhai na allant yrru bellach, ond i’r rhai a allai weithredu fel systemau cymorth anffurfiol.

Mae hwn yn gam cyntaf i adeiladu’r sgwrs o amgylch y pwnc hwn yn ogystal ag yn gyflwyniad i’r pwnc o’r hyn sy’n digwydd i’r bobl nad ydynt yn gyrru bellach ac nad oes ganddynt yr opsiwn o gymorth anffurfiol.

Meddai Dr Amy Murray: “Mae’n hollbwysig ein bod yn agor y drafodaeth am brofiadau pobl hŷn o roi’r gorau i yrru, tra hefyd yn cydnabod y rôl y gall cefnogaeth anffurfiol ei chwarae. Mae’r rhai sy’n darparu’r cymorth hwn yn aml yn cael eu hanwybyddu, er fel yr amlygwyd yn fy astudiaeth ddoethurol, mae angen cydnabyddiaeth a chefnogaeth ar ddarparwyr cymorth anffurfiol, yn ogystal â’r rhai y gallant eu cynorthwyo. Mae ymchwil cyfredol a blaenorol wedi cydnabod bod atal gyrru yn drawsnewidiad mawr yn hwyrach mewn bywyd, er bod diffyg dealltwriaeth ynghylch ystyr hyn i fywydau pobl hŷn, a’r rhai o’u cwmpas”.

Meddai’r Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

“Mae gyrru ac aros yn symudol yn chwarae rhan enfawr mewn llesiant meddyliol a chorfforol person. Bydd podlediad Dr Murray yn galluogi trafodaethau hanfodol ynghylch y pwnc gyrru yn hwyrach mewn bywyd, a fydd o gymorth i ddechrau adeiladu sylfaen dystiolaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau yn y maes hwn.”

Mae Dr Amy Murray wedi rhannu ei darganfyddiadau fesul podlediad ac mae modd dod o hyd iddo yn www.cadr.cymru/older-drivers. Mae’r podcast yn cynnwys:

Profiadau byw gan Daphne Gibbs

A’r Athro Charles Musselwhite, Cyfarwyddwr THiNK.

 

Mae CADR wedi creu llyfryn digidol y gellir ei lawrlwytho o wefan CADR (www.cadr.cymru/en/drivers-campaign.htm). Gellir defnyddio’r llyfryn i rannu canfyddiadau ymchwil Dr Murray, gan amlygu gwybodaeth allweddol ynghylch cymorth anffurfiol a manylion cyswllt y gwasanaethau cenedlaethol sydd ar gael. Bydd CADR hefyd yn rhannu fersiwn addasadwy. Yma gall cynghorau a sefydliadau gwirfoddol fewnbynnu eu gwasanaethau a’u manylion cyswllt, er mwyn cyrraedd y bobl yn uniongyrchol yn eu hardaloedd.

Cronfa Gymunedol Comic Relief yng Nghymru

Cyllid gan Gronfa Gymunedol Comic Relief yng Nghymru i gefnogi sefydliadau a arweinir gan y gymuned.

Ar ôl cyflwyno cynllun peilot llwyddiannus, mae Comic Relief wedi cadarnhau rownd newydd o gyllid i ariannu gweithredu a arweinir gan y gymuned gan sicrhau newid cymdeithasol cadarnhaol, parhaol ledled Cymru.

Mae partneriaid Comic Relief a Chymorth Trydydd Sector Cymru (TSSW) yn cydnabod y gwaith gwych y mae sefydliadau a arweinir gan y gymuned yn ei wneud ledled Cymru ac maent am helpu sefydliadau i feithrin eu gallu eu hunain mewn ffordd gynaliadwy ac effeithiol.

 

ARIAN AR GAEL

Mae gan Gronfa Gymunedol Comic Relief yng Nghymru ddwy lefel ariannu:

Grantiau Bach – £1,000 – £10,000

Nod y gronfa hon yw sicrhau bod y grwpiau cymunedol sy’n arwain newid a thwf yn eu hardal yn cyrraedd cyllid comic rhyddhad ar lawr gwlad, gan eu galluogi i wneud newidiadau cadarnhaol mewn ymateb i anghenion penodol y gymuned.

 

Gweinyddir Grantiau Bach gan y Cynghorau Gwirfoddol Sirol lleol. Gellir lawrlwytho’r ffurflen gais, taenlen cyllid prosiect a chanllawiau ar gyfer grantiau bach (£1,000 – £10,000) o wefan Cyllido Cymru neu o dudalennau gwe eich Arweinydd Rhanbarthol – os nad ydych yn siŵr o’ch Arweinydd Rhanbarthol, gweler y tabl ar waelod y dudalen. y dudalen. [INSERT LINK HERE]

Grantiau Twf Sefydliadol – £30,000 – £50,000

Wedi’i weinyddu gan CGGC, nod y grantiau ar gyfer twf sefydliadol yw rhoi cyfle i sefydliadau gael effaith strategol a chynyddu gwydnwch, er enghraifft:

  • Adeiladu ar yr hyn sy’n gweithio’n dda mewn perthynas â gweithgaredd cymunedol eich sefydliad
  • Cryfhau a mesur effaith eich gweithgaredd craidd a arweinir gan y gymuned
  • Datblygu ffyrdd newydd o weithio

I wneud cais am Grant Twf Sefydliadol, bydd angen i chi gofrestru gyda Phorth Ceisiadau Amlddefnydd CGGC (MAP). Os ydych wedi cofrestru gyda MAP o’r blaen, gallwch fewngofnodi trwy roi eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair ar y sgrin gartref.

 

Gall sefydliadau gofrestru drwy fynd i’r wefan map.wcva.cymru.

Os oes angen help arnoch i gofrestru ar MAP dilynwch y fideo hwn

Os hoffech gael eich ysbrydoli gan brosiectau a ariennir o dan gynllun peilot y Grantiau Twf Sefydliadol gallwch lawrlwytho crynodeb o gyflawniadau’r prosiect yma.

 

THEMÂU STRATEGOL COMIC RELIEF

Bydd pob prosiect llwyddiannus yn dangos cyfraniad at un o bedair Thema Strategol Comic Relief:

Mae plant yn goroesi ac yn ffynnu

Camau gweithredu i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant a mynediad at gyfleoedd i gyflawni eu potensial

 

Cyfiawnder rhyw

Camau i wella cydraddoldeb i fenywod a merched

 

Lle diogel i fod

Camau i helpu pobl agored i niwed i wella eu hamgylchiadau a’u diogelwch

 

Materion iechyd meddwl

Camau gweithredu i alluogi mynediad at gymorth a chynyddu ymwybyddiaeth

 

CYMHWYSTER

Mae sefydliadau sydd â diben â ffocws cymdeithasol ac incwm o lai na £250,000 yn gymwys i wneud cais. Mae cyfanswm o £900,000 ar gael mewn grantiau.

 

AMSERLEN

Mae’r ffenestr ymgeisio ar agor o 18 Ebrill 2022, gan gau 27 Mehefin 2022.

Y cynharaf y gellir prosiectau eu cychwyn yw 22 Awst 2022 gan ddod i ben erbyn 30 Awst 2023 fan bellaf.

 

Mae ffurlenni cais ar gael isod;

Comic Relief Application Pack 2022

Y Gronfa Hapusrwydd

Mae’r Gronfa Hapusrwydd ar gael i alluogi a chefnogi prosiectau sy’n gwella iechyd meddwl a lles, cynhwysiant, dysgu a datblygu sgiliau mewn cymunedau lleol.

Yn y pen draw mae’n creu pobl a chymdogaethau hapusach. Maent yn chwilio’n benodol am sefydliadau llawr gwlad sydd wedi’u sefydlu ar gyfer y gymuned leol a chan y gymuned leol.

Bydd y gronfa’n dyfarnu £2,500 y chwarter – gan ganiatáu i hyd at bedwar prosiect gwahanol y flwyddyn wneud cais. Dim ond unwaith mewn blwyddyn y gall pob prosiect a phobl gysylltiedig wneud cais.

Am fwy o wybodaeth.

Ymddiriedolaeth Elusen Beacon Lodge

Yr amcanion Elusennol yw:

Darparu cymorth ariannol ar ffurf grantiau i elusennau cofrestredig eraill sy’n hyrwyddo gofal, diogelwch a magwraeth plant drwy:

  • cefnogi a chynorthwyo’r rhai mewn angen, eu teuluoedd a’u gofalwyr
  • hyrwyddo eu lles a’u cefnogaeth; a
  • hyrwyddo eu haddysg.

Rhaid i elusennau sy’n gwneud cais am grant gan Ymddiriedolaeth Elusennol Beacon Lodge Cyf (BL)

  • Bod wedi’i gofrestru fel elusen gyda’r Comisiwn Elusennau neu CThEM
  • Meddu ar nodau a gwrthrychau sy’n gyson â nodau a gwrthrychau BL a dylent ymwneud â’n meysydd allweddol: lles a chefnogaeth plant a’u rhieni.
  • Gweithredu o fewn y DU
  • Cael cyfrif banc yn enw eu sefydliad.
  • Bod ag incwm blynyddol o dan £500,000
  • Bod â mesurau a pholisïau diogelu priodol ar waith.

I wneud cais, ewch yma.

Cyflwyno Gwasanaeth Newydd i Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg – Gwasanaeth Gwella Lles (WISE)

Mae bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn falch o gyhoeddi agoriad swyddogol y Gwasanaeth Gwella Lles (WISE), a fydd yn darparu ymyrraeth anfeddygol i wella iechyd a lles pobl.

Mae’r gwasanaeth yn rhan o Raglen Gofal a Gynllunnir GIG Cymru ar gyfer Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.

Mae WISE yn dilyn dull meddygaeth ffordd o fyw sy’n seiliedig ar dystiolaeth lle mae grymuso cleifion yn sail i’r gwasanaeth ac yn cefnogi newid ymddygiad drwy dechnegau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i wella lles meddyliol a chorfforol

Drwy raglen addysg barhaus, nod WISE yw galluogi cleifion a atgyfeirir i ddeall yn well achosion sylfaenol eu cyflyrau meddygol presennol a dewis ymddygiadau ffordd o fyw sy’n gwella eu hiechyd hirdymor, yn ogystal â sicrhau ansawdd bywyd gwell gyda llai o faich symptomau.

Mae’r ethos hwn yn cyd-fynd â strategaeth 2030 y Bwrdd Iechyd i helpu cleifion i fanteisio ar sawl cyfle i wella eu canlyniadau iechyd corfforol a meddyliol; hyrwyddo lles; a chefnogi’r gwaith o leihau clefydau sy’n gysylltiedig â ffordd o fyw megis amddifadedd, anghydraddoldeb iechyd, ac ynysu cymdeithasol o fewn y boblogaeth ranbarthol.

I ddechrau, bydd Tîm WISE yn gallu cefnogi cleifion gyda’r canlynol:

  • Poen Cronig
  • Syndrom Coluddyn Anniddig (IBS)
  • Lles Emosiynol- straen, pryder, PTSD
  • Cardioleg – Pwysedd gwaed uchel
  • Cyflyrau anadlol

Gall cleifion gael eu hatgyfeirio gan eu Hymgynghorydd, practis meddyg teulu, gweithwyr iechyd proffesiynol, hunangyfeirio, neu gysylltydd cymdeithasol. Bydd y gwasanaeth hefyd yn cynyddu’r cyfle i amodau eraill dros y misoedd nesaf i gynnig y cymorth atal a lles allweddol hwn.

Dywedodd Liza Thomas-Emrus, y Clinigwr Arweiniol gyda WISE: “Ein hamcan yn WISE yw canolbwyntio ar yr hyn sy’n wirioneddol bwysig i bob claf unigol drwy fynd i’r afael ag unrhyw rwystrau a allai fod ganddynt i wneud dewisiadau llwyddiannus o ran ffordd o fyw iach, ac yna creu’r cyfleoedd i ddarparu gofal cyfannol sy’n cael effaith arnynt. Rydym am i gleifion deimlo eu bod yn cael eu gweld fel yr unigolion y maent ac nid fel symptom neu glefyd.

“Rydyn ni i gyd yn gwybod pa mor anodd yw newid ein ffordd o fyw. Gall ymddangos yn syml ond nid yw hynny’n golygu ei fod yn hawdd. Bydd gan gleifion Hyfforddwr Lles i’w cefnogi i weithredu newidiadau parhaus sy’n gwella ansawdd bywyd.”

“Mae hyn yn gyfle cyffrous i ni yn WISE gan ein bod wedi creu’r amser i ganolbwyntio’n fwy egnïol ar y ffactorau ffordd o fyw sydd wrth wraidd afiechydon mwyaf cronig ein rhanbarth. Mae’n ‘fuddugoliaeth’ i gleifion WISE a’r Bwrdd Iechyd.”

Hyfforddwyr Lles

Mae WISE wedi’i gynllunio i fod yn wasanaeth y gellir ei raddio, y gellir ei ddyblygu a fydd yn cael ei ddarparu drwy Hyfforddwyr Wellness sydd wedi’u hyfforddi’n dda, a gyflogir gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.

Bydd y tîm gwirfoddolwyr o fewn y Bwrdd Iechyd yn cefnogi’r gwasanaeth a bydd yn allweddol i’w gyflwyno a’i ddatblygu o gefnogaeth cymheiriaid i gymheiriaid.

Bydd pob Hyfforddwr Lles a gwirfoddolwr yn arwain grwpiau o hyd at 20 o gleifion a atgyfeirir drwy raglen strwythuredig sy’n canolbwyntio ar feysydd fel maeth, symudiad corfforol, lleihau straen, gwella cwsg a helpu i leihau unrhyw symptomau a allai effeithio ar ansawdd bywyd o ddydd i ddydd.

Bydd y gwasanaeth yn cael ei gefnogi gan Gydlynydd Cymunedol Wellness i ddarparu gwasanaethau rhagnodi cymdeithasol a thri meddyg meddygaeth ffordd o fyw.

Offer Iechyd Digidol

Gydag offer digidol bellach yn cael eu defnyddio’n helaeth i ategu gofal iechyd wyneb yn wyneb, mae WISE wedi buddsoddi mewn datblygu gwefan hunanreoli a fydd yn cyflwyno’r prif gategorïau meddygaeth ffordd o fyw gyfannol.

Bydd y wefan yn darparu dolenni i wefannau dibynadwy eraill, yn cynnig adnoddau iechyd y gellir eu lawrlwytho, ac yn cynnwys erthyglau blog rheolaidd a phodlediadau ar y we sy’n ymdrin â phynciau meddygaeth ffordd o fyw gan arbenigwyr ac ymarferwyr iechyd dethol.

Bydd cleifion sy’n cael eu cyfeirio at WISE hefyd yn cael mynediad personol wedi’i deilwra’n bersonol i amrywiol gymwysiadau rhagnodi cymdeithasol gofal iechyd digidol a llyfrgelloedd iechyd digidol.

Offeryn cyffrous i staff a chleifion yw’r Sefydliad ar gyfer yr Adolygiad o Apiau Gofal ac Iechyd (ORCHA), cwmni adolygu a dosbarthu apiau iechyd blaenllaw lle mae gan WISE ei siop ei hun sy’n cynnig newid ymddygiad a chefnogi APPS.

Mae’r gwasanaeth hefyd yn defnyddio Meddalwedd Elfennol, y defnyddir ei dechnoleg arobryn yn bennaf mewn rhaglenni iechyd cymunedol ac ymyriadau gofal iechyd. Mae’r feddalwedd hon yn helpu WISE i gael dealltwriaeth o’r claf a’i ganlyniadau mewn ffordd unigryw.

Meddai Gillian Day, rheolwr rhaglen Iechyd a Lles gyda WISE:

“Mae ein tîm yn ystyried cyfleoedd digidol fel apiau iechyd a gofal fel cam hanfodol ar y daith tuag at ddull gofal iechyd sy’n canolbwyntio mwy ar y claf ac sy’n cael ei reoli ei hun – rhywbeth sy’n agos at ein calonnau yn WISE tra rydym hefyd yn sicrhau nad yw cleifion yn cael eu hynysu’n ddigidol.”

“Bydd yr arbenigwyr iechyd digidol yn ORCHA ac Elemental yn ein helpu i oresgyn yr heriau ôl-bandemig presennol sy’n ein hwynebu yn ein rhanbarth, ac, o gadw’r dyfodol mewn cof, yn darparu dull gofal iechyd amgen i’n poblogaeth gyda disgwyliad oes cynyddol a chyflyrau mwy hirdymor.”

Partneriaeth y Trydydd Sector

Bydd WISE yn ymgysylltu â’r gymuned drwy sefydliadau trydydd sector dethol a busnesau lleol i ddarparu amrywiaeth o weithdai sy’n canolbwyntio ar y claf er mwyn annog cleifion i fabwysiadu ffordd iachach o fyw.

Bydd y rhain yn cynnwys dosbarthiadau coginio iach, gweithdai lleihau straen, sesiynau dietegydd arbenigol ar gyfer y coluddyn, rhaglenni Fitbit a llawer mwy.

Unwaith y bydd sefydliad lleol o’r fath yng Nghymru, Dewch yn Ffit Cymru, yn cymell eu cwsmeriaid i ddefnyddio rhaglen gamau sy’n seiliedig ar dargedau. Unwaith y cyflawnir targedau cam, cânt eu gwobrwyo wedyn gyda thalebau y gellir eu gwario yn eu cymuned leol megis siopau ffrwythau a llysiau, campfeydd, siopau trin gwallt, neu sinemâu.

Mae WISE hefyd wedi partneru ag adran Celfyddydau a Pherfformio Byrddau Iechyd Cwm Taf Morgannwg a bydd yn cynnig cyfres o weithdai celf, crefftau a pherfformio unigryw gydag artistiaid lleol o Gymru.

Am fwy o wybodaeth, ebostiwch: CTM.WISE@wales.nhs.uk neu galwch ar 01685 351 451/01685 351 444
Ewch i’r gwefan: https://ctmuhb.nhs.wales/wise-ctm

Cronfa Gymunedol Comic Relief yng Nghymru

Mae Cronfa Gymunedol Comic Relief yng Nghymru – cynllun grant hawdd ei gyrchu ar gyfer grwpiau cymunedol yng Nghymru – bellach ar agor i geisiadau!

Mae CGGC yn falch o lansio rownd ariannu 2022/23 ar gyfer Cronfa Gymunedol Comic Relief yng Nghymru. Ar ôl cyflwyno cynllun peilot llwyddiannus, mae Comic Relief wedi cadarnhau rownd newydd o gyllid i gefnogi gweithredu a arweinir gan y gymuned gan sicrhau newid cymdeithasol cadarnhaol, parhaol ledled Cymru.

Bydd prosiectau llwyddiannus yn dangos cyfraniad at un o bedair thema strategol Comic Relief:

  • Mae plant yn goroesi ac yn ffynnu: Camau gweithredu i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant a mynediad at gyfleoedd i gyflawni eu potensial
  • Cyfiawnder rhyw: Camau i wella cydraddoldeb i fenywod a merched
  • Lle diogel i fod ynddo: Camau i helpu pobl sy’n agored i niwed i wella eu hamgylchiadau a’u diogelwch
  • Materion iechyd meddwl: Camau gweithredu i alluogi mynediad at gefnogaeth a chynyddu ymwybyddiaeth

BETH SYDD AR GAEL?

Mae gan Gronfa Gymunedol Comic Relief yng Nghymru ddwy lefel ariannu:

Grantiau Bach – £1,000 – £10,000

  • Prosiectau sy’n cynnal gweithgaredd a arweinir gan y gymuned i fynd i’r afael ag anghenion neu faterion penodol yn eu hardal leol

Grantiau Twf Sefydliadol – £30,000 – £60,000

  • I sefydliadau gyflawni gweithgaredd i gael effaith strategol a chynyddu eu gwytnwch

Bydd y Grantiau Bach a’r Grantiau Twf Sefydliadol yn derbyn ceisiadau gan sefydliadau sydd ag incwm blynyddol o lai na £250,000 y flwyddyn yn unig.

Mae’r ffenestr ymgeisio ar agor o 19 Ebrill 2022 gan gau 27 Mehefin 2022.

Y cynharaf y gellir prosiectau eu cychwyn yw 22 Awst 2022 gan ddod i ben erbyn 30 Awst 2023 fan bellaf.

Gallwch ddysgu mwy drwy ymweld â Cronfa Gymunedol Comic Relief Yng Nghymru.

Wythnos Gwirfoddolwyr 2022

Mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn wythnos arbennig a glustnodwyd i ddiolch i wirfoddolwyr am bopeth y maent yn ei gynnig i’w cymunedau lleol, gwirfoddolwyr sy’n gwneud gwahaniaeth i gymunedau ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gan gefnogi sefydliadau a helpu pobl.

Mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn cael ei dathlu rhwng 1af a 7fed Mehefin bob blwyddyn. Mae’n wythnos lle mae’r DU yn dathlu gwirfoddolwyr ac yn dweud diolch iddynt am y cyfraniad a wnânt. Mae’r wythnos hefyd yn codi ymwybyddiaeth o fanteision bod yn wirfoddolwr a’r rolau gwirfoddoli amrywiol sydd ar gael.

Yn ogystal â helpu eraill, dangoswyd bod gwirfoddoli yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau’r rhai sy’n gwirfoddoli, gan gynorthwyo gwirfoddolwyr i ennill sgiliau newydd a hybu hunan-barch. Mae llawer o fudiadau gwirfoddol ym Mhen-y-bont ar Ogwr sy’n dibynnu ar wirfoddolwyr i helpu eraill.

  • Gall gwirfoddoli fod yn ffordd dda o edrych ar ddatblygu sgiliau newydd neu ddarparu sgiliau i sefydliadau sydd gennych eisoes, i’w hychwanegu at eich CV, i helpu sefydliad sy’n agos at eich calon, i gwrdd â phobl newydd, i gael rhywbeth a wnewch yn rheolaidd, i’ch galluogi i deimlo’n rhan o’ch cymuned ac i deimlo eich bod yn gwneud gwahaniaeth.

Eleni mae BAVO yn gofyn i sefydliadau anfon clipiau fideo o’u sefydliad – isod ceir rhai awgrymiadau;

  • Fideo i hyrwyddo eich rolau gwirfoddoli a gobeithio recriwtio mwy o wirfoddolwyr
  • Fideo i ddweud diolch i’ch gwirfoddolwyr am eu holl waith caled.
  • Fideo o’ch gwirfoddolwyr yn dweud wrthym beth maen nhw wedi bod yn ei wneud dros y misoedd diwethaf.
  • Fideo o wirfoddolwr yn esbonio eu rôl fel gwirfoddolwr.
  • Fideo yn esbonio beth mae eich sefydliad yn ei wneud, pwy rydych chi’n eu cefnogi a beth rydych chi’n gobeithio ei gyflawni dros y misoedd nesaf.

Yna gallwn dynnu sylw at y fideos ar ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, fel bod pobl yn fwy ymwybodol o faint mae gwirfoddolwyr a sefydliadau yn ei wneud i gefnogi unigolion a chymunedau ledled Pen-y-bont ar Ogwr.  Dim ond tua 30 eiliad o hyd fydd angen i’r clipiau fideo fod a gellir eu gwneud ar eich ffôn drwy Whatsapp.  Yna gallwn gynnal y fideos drwy gydol Wythnos Gwirfoddolwyr i godi ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n digwydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr.  Byddai angen i chi anfon y fideos i BAVO erbyn 15 Mai.

  • Cofiwch Mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn gyfle gwych i ddiolch i wirfoddolwyr ac mae BAVO yn fwy na pharod i redeg negeseuon diolch drwy gydol yr wythnos eu hanfon drwodd a byddwn yn eu cael ar wefan a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol BAVO.
  • Beth am gynnal coffi a dal i fyny i wirfoddolwyr yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr fel diolch i’ch gwirfoddolwyr’ a rhowch wybod i ni a byddwn yn ychwanegu at ein cyfryngau cymdeithasol.

Os oes gennych unrhyw syniadau neu awgrymiadau eraill, rhowch wybod i mi a byddwn yn ceisio eu hychwanegu at y rhestr.  

Mae hon wedi bod yn flwyddyn heriol ac mae gwirfoddolwyr wedi gwneud gwahaniaeth mawr mewn cymaint o ffyrdd, felly gadewch i ni ddathlu a chydnabod y cyflawniadau hynny.

Gweithdy Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd – Gwarant i Bobl Ifanc

Mae Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn eich gwahodd chi i rith-weithdy ar ddydd Mercher 4 Mai rhwng 2 a 3pm i drafod y Warant i Bobl Ifanc a lansiwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru.

Nod y Warant i Bobl Ifanc yw cynnig cymorth i mewn i waith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb o dan 25 oed. Gosodwyd y warant er mwyn sicrhau na fydd yna genhedlaeth goll yng Nghymru yn sgil y dirywiad economaidd a ragwelir a’r cynnydd enfawr mewn diweithdra o ganlyniad i bandemig Covid-19 a Brexit.

Nod y gweithdy yw:

  • Cyfathrebu nodau ac amcanion eang y Warant i Bobl Ifanc
  • Adolygu’r ddarpariaeth gyfredol sydd ar gael i bobl ifanc o dan 25 oed a thrafod a ellid cryfhau prosesau ledled yr ardal i gynorthwyo’r rheini sydd bellaf o’r farchnad lafur
  • Datblygu dealltwriaeth o sut mae’r ddarpariaeth gyfredol o fudd i wahanol grwpiau o fewn cymdeithas a beth allai fod angen ei newid

Mae’r gweithdy i fudiadau gwirfoddol sy’n gweithio gyda phobl ifanc Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac yn eu cynorthwyo. Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cynnwys y 10 ardal awdurdod lleol sy’n gwasanaethu De-ddwyrain Cymru – Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg.

 

Cofrestrwch yn https://www.eventbrite.co.uk/e/cardiff-capital-region-skills-partnership-workshopyoung-persons-guarantee-tickets-316602846637Gweithdy Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd – Gwarant i Bobl Ifan

YMGYRCH NEWYDD YN GALW AR YRWYR I FYND Â’U SBWRIEL GARTREF

Mae un o brif elusennau amgylcheddol Cymru yn annog gyrwyr i gadw eu cydwybod a’n ffyrdd yn glir fel rhan o ymgyrch genedlaethol newydd.

Gyda mwy o gerbydau ar ein ffyrdd nag erioed o’r blaen ac arferion bwyta prydau cyflym yn dod yn fwy poblogaidd, mae sbwriel ar hyd ochr y ffyrdd yn broblem gynyddol yng Nghymru. Mae’n achosi niwed i’n hamgylchedd a’n bywyd gwyllt. Mae’n difetha’r golygfeydd hardd i bobl leol ac ymwelwyr, ac mae hefyd yn anodd, yn beryglus ac yn ddrud i’w glirio.

Mae ymchwil yn dangos bod 78% o bobl sy’n taflu sbwriel o’u cerbyd yn teimlo’n euog. Mae ymgyrch newydd Cadwch Gymru’n Daclus yn annog gyrwyr i beidio â gadael unrhyw beth ar eu hôl ac i fynd â’u sbwriel gartref.

Mae’r ymgyrch genedlaethol yn cael ei chynnal fel rhan o Caru Cymru – mudiad cynhwysol dan arweiniad Cadwch Gymru’n Daclus ac awdurdodau lleol i ysbrydoli pobl i weithredu a gofalu am yr amgylchedd.

Fel rhan o’r ymgyrch, bydd hysbysebion awyr agored yn ymddangos ar draws mannau lle mae sbwriel yn broblem yng Nghymru ar fyrddau arddangos ar ochr y ffordd a hysbysebion mewn gorsafoedd petrol ac ar gefn bysiau. Bydd hyn hefyd yn cynnwys hysbysebion radio a sain digidol i dargedu gyrwyr sy’n gwrando ar eu hoff sianeli.

Bydd nifer yr hysbysebion yn cynyddu ar benwythnosau prysur a gwyliau banc yn ystod yr haf er mwyn targedu cynifer o yrwyr â phosibl.

Mae Cadwch Gymru’n Daclus hefyd wedi datblygu adnoddau i gwmnïau cludo nwyddau a gyrwyr masnachol eraill eu defnyddio.

Dywedodd Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus:

“Does dim esgus dros daflu sbwriel ar hyd ochr y ffyrdd. Nid yn unig y mae’n difetha ein gwlad brydferth, a’r peth cyntaf mae ymwelwyr yn ei weld weithiau wrth gyrraedd Cymru, ond mae hefyd yn cael effaith sylweddol ar ein hamgylchedd a’n bywyd gwyllt. Rydyn ni’n amcangyfrif bod y gost o gasglu a chael gwared ar sbwriel ar hyd ochr y ffyrdd yng Nghymru yn £3.5 miliwn o leiaf bob blwyddyn.

Mae ein hymgyrch newydd yn gofyn i chi wneud y peth iawn a rhoi’r brêcs ar daflu sbwriel drwy dynnu sylw at sut mae sbwriel yn gwneud i bobl deimlo. Mae’r mwyafrif helaeth o yrwyr yn gwybod bod taflu sbwriel o’u cerbyd yn annerbyniol, ac rydyn ni am i bawb beidio â gadael unrhyw beth ar eu hôl.

Pan fyddwch chi allan yn eich cerbyd, peidiwch â gadael unrhyw beth ar eich ôl. Cadwch eich cydwybod a’n ffyrdd yn glir drwy fynd â’ch sbwriel gartref neu ei roi yn y bin agosaf.”

I gael rhagor o wybodaeth ac i lwytho deunyddiau am ddim i lawr, ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus: https://keepwalestidy.cymru/caru-cymru/cy/

Mae Caru Cymru wedi cael cyllid drwy gynllun Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Ceisiadau ar agor am Arweinydd Cymunedol

A ydych yn arweinydd cymunedol yng Nghymru?

Yn galw ar bob Arweinydd Cymunedol! Hefyd a elwir yn bobl bob dydd yn gwneud pethau anghyffredin dros eu cymunedau.

Mewn partneriaeth â Clore Social, mae Canolfan Cydweithredol Cymru wedi lansio’r 6ed ffrwd mewn cyfres o raglenni arweinyddiaeth a ariennir ar gyfer Arweinwyr Cymdeithasol Cymru. Gallwch wneud cais yma a’r dyddiad cau yw 16 Mai 2022.

Mae Arweinwyr Cymunedol Cymru yn rhaglen datblygu arweinyddiaeth ar gyfer arweinwyr cymunedol a llawr gwlad prysur. Mae’r rhaglen wedi’i dylunio i dyfu eich effaith trwy feithrin dylanwad, hyder a rhwydwaith cymorth, gyda ffocws ar wytnwch, ailosod a llywio’r dirwedd ôl-bandemig gymhleth.

 

Eich datblygu chi a’ch cymuned

Rydych chi’n achubiaeth hanfodol i gymunedau yng Nghymru. Mae llawer ohonoch wedi bod yn gweithio’n ddiflino trwy gydol y pandemig i gynorthwyo adferiad ein cymunedau. Hoffem roi’r cymorth sydd ei angen arnoch ar gyfer eich lles eich hun, i adeiladu eich gwydnwch a’ch cryfder ac i barhau â’ch effaith gadarnhaol mewn cymdeithas.

Am y rhaglen

Nod Arweinydd Cymunedol Cymru yw dod â 40 o arweinwyr cymunedol o bob rhan o Gymru ynghyd i feithrin gallu, cryfhau cymunedau a dysgu oddi wrth ei gilydd. Rydyn ni eisiau creu gofod lle gallwch chi deimlo’n ddiogel, yn llawn egni a datblygu rhwydwaith o arweinwyr cymunedol eraill y gallwch chi weithio gyda nhw y tu hwnt i hyd y rhaglen.

Cynhelir y rhaglen rhwng: 6 Mehefin – 5 Awst 2022

  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award