Ar hyn o bryd mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cynnal ymchwiliad i sut y gall oedolion hŷn ac anabl a gofalwyr di-dâl herio penderfyniadau cynghorau lleol am ofal cymdeithasol a chymorth yng Nghymru a Lloegr. Fel y gwyddoch, mae cynghorau lleol yn gwneud nifer o benderfyniadau sy’n effeithio ar fynediad pobl at ofal cymdeithasol a chymorth. Mae hyn yn cynnwys a oes ganddynt hawl i gael gofal neu gymorth ac, os felly, faint a pha fath o ofal neu gymorth y gallant ei gael.s.
Maent am ddeall profiadau pobl o herio, neu geisio herio, penderfyniadau cynghorau lleol am ofal cymdeithasol neu gymorth i oedolion.
Maent am wybod:
Fel rhan o’r broses o gasglu tystiolaeth, mae’r comisiwn bellach wedi dechrau cynnal cyfweliadau gyda sefydliadau allweddol ar draws y sector, yng Nghymru a Lloegr. Hoffem glywed gan weithwyr proffesiynol a sefydliadau sy’n gweithio gyda defnyddwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofalwyr di-dâl i sicrhau eu bod yn rhoi ystyriaeth lawn i’w mewnwelediadau a’u profiadau yn eu hymchwiliad.
If you would like to take part in an interview or submit written evidence please contact: SCI@equalityhumanrights.com. Please find attached more information about what to expect from an interview. We are hoping to conclude our evidence gathering by the end of January 2022.
For more information about the inquiry please visit the inquiry webpage. You may also be interested in reading the inquiry terms of reference.
Os hoffech gymryd rhan mewn cyfweliad neu gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig, cysylltwch â: SCI@equalityhumanrights.com. Amgaeaf ragor o wybodaeth am beth i’w ddisgwyl o gyfweliad. Rydym yn gobeithio cwblhau ein gwaith casglu tystiolaeth erbyn diwedd Mis Ionawr 2022.
I gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad, ewch i dudalen we’r ymchwiliad. Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd mewn darllen cylch gorchwyl yr ymchwiliad.