Mae Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector yn cael ei adolygu ar hyn o bryd.
Gweminar Dydd Mercher 27 Medi
Mae’r gweminar yma’n darparu cyfle i ddysgu mwy am y newidiadau arfaethedig i God Ymarfer Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyllido’r Trydydd Sector. Ymhellach, byddwch yn gallu cymryd rhan mewn sesiwn ryngweithiol i rannu eich barn, fydd yn sicrhau fod eich mewnwelediad amhrisiadwy a phrofiad yn cael eu cysidro wrth greu Cod Newydd. Yn ymuno yn y sesiwn bydd Phil Fiander, Cadeirydd yr Is-bwyllgor Cyllid a Chydymffurfio ynghyd â Llywodraeth Cymru a CGGC. Am fwy o gyd-destun am yr adolygiad gweler gwefan CGGC.
CGGC yw’r corff cenedlaethol ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghymru, a’i bwrpas yw galluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i wneud mwy o wahaniaeth gyda’n gilydd.