Mae Tîm Cymunedau Cydnerth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mewn partneriaeth â Phrosiect Ieuenctid a Chymunedol Noddfa a Chlwb Rasio BMX Llynfi, yn cydweithio ar astudiaeth ddichonoldeb, ac yn gyffrous i gyflwyno dau brosiect posibl ar gyfer Caerau — ac rydym angen eich mewnbwn i’w gwneud yn realiti!
Er mwyn sicrhau bod y gwelliannau posibl hyn yn adlewyrchu anghenion y gymuned leol, rydym yn eich gwahodd yn gynnes i ymuno â ni yn ein digwyddiadau ymgynghori sydd i ddod. Byddem wrth ein bodd yn clywed eich barn am ddwy welliant allweddol i gyfleusterau sy’n cael eu hystyried:
Manylion y digwyddiadau:
Digwyddiad 1: Rhannu syniadau ar gyfleuster chwaraeon pob tywydd
Digwyddiad 2: Gweld dyfodol trac BMX
Pam mae eich llais yn bwysig
Er nad yw cyllid ar gyfer y prosiectau hyn wedi’i sicrhau eto, rydym wedi ymrwymo i adeiladu achos cryf i geisio grantiau yn y dyfodol. Trwy gasglu mewnbwn gan y gymuned nawr, byddwn mewn sefyllfa dda i gyflwyno cais cyllido cadarn pan ddaw’r cyfle.
Rydym yn mawr obeithio y gallwch ymuno â ni ar gyfer un o’r sesiynau hyn. Bydd eich cyfranogiad yn ein helpu i adeiladu achos cryf dros yr angen am y gwelliannau hyn i’r ardal leol.
Adborth
Gellir rhoi adborth ar y prosiectau gwelliant hyn trwy ein ffurflen adborth ar-lein, sydd ar agor tan 22 Rhagfyr, neu wyneb yn wyneb yn y digwyddiadau.
Yn y cyfamser, gallwch ddysgu mwy am y prosiect trwy ymweld â gwefannau’r prosiect.
Os oes gennych unrhyw syniadau neu gwestiynau penodol ymlaen llaw, mae croeso i chi eu rhannu gyda ni trwy anfon e-bost at matthew.noddfa@yahoo.com.