Mae Cronfa Cymru Actif yn cynnig grantiau o £300 i £50,000 i glybiau chwaraeon a sefydliadau cymunedol i gefnogi prosiectau sy’n hyrwyddo cydraddoldeb, cynaliadwyedd ac arloesedd mewn chwaraeon.
Sylwer: Rhaid i geisiadau i Gronfa Cymru Actif y flwyddyn ariannol hon ddod i mewn erbyn dydd Mercher 31 Ionawr 2024. Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu prosesu tan fis Ebrill a byddant yn cael eu cyfrif yn rownd ariannu 2024-25.
Pwy sy’n gallu ymgeisio?
Gall pob clwb neu sefydliad chwaraeon nid-er-elw yng Nghymru wneud cais, waeth beth yw eu maint neu leoliad, os ydych yn bodloni’r amodau a’r gofynion cyllido.
I fod yn gymwys ar gyfer Cronfa Cymru Actif, mae’n rhaid i’ch sefydliad:
Beth sydd ar gael?
Yr isafswm yw £300 a’r uchafswm yw £50,000*.Dyfernir cyllid ar raddfa symudol. Bydd angen i chi wneud cyfraniad o 10% ar gyfer grantiau dros £10k neu 20% am fwy na £25k h.y.100% grant hyd at £10,000
Grant o 90% ar gyfer dyfarniadau rhwng £10,001 a £25,000
Grant o 80% ar gyfer dyfarniadau rhwng £25,001 a £50,000
Darllen mwy
Mae mwy am Cymru Actif ar wefan Chwaraeon Cymru