Mae Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Cwm Taf Morgannwg (RPB) yn eich gwahodd i gynnal hacathod ar gyfer gwasanaethau plant a phobl ifanc, sy’n cael ei gynnal ar 28 Hydref 2022 ym Mhrifysgol De Cymru, Trefforest.
Dyma gyfle i weithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill a defnyddwyr gwasanaethau i siapio ein Cynllun Ardal Ranbarthol ar gyfer Cwm Taf Morgannwg.
Byddwn yn clywed gan bobl ifanc, yn ogystal â phobl broffesiynol, gofalwyr ac aelodau o’r teulu. Mae hyn er mwyn i ni sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed, gwrando arnyn nhw, gweithredu ac ymateb iddyn nhw pan rydyn ni’n edrych ar ba wasanaethau sydd angen eu creu a’u gwella.
Cefndir
Yn y bôn, mae hac-a-thons yn dod â gweithwyr proffesiynol, gofalwyr a phobl sydd â phrofiadau byw ynghyd i adnabod heriau, ac edrych ar ffyrdd o’u datrys gyda’i gilydd.
Fel y gwyddoch, rydym wedi datblygu Asesiad Anghenion Poblogaeth i ddeall yr anghenion blaenoriaeth ar gyfer plant a phobl ifanc yn ein rhanbarth. Mae angen i ni nawr adeiladu ar y themâu hyn a deall pa gamau sydd angen eu cymryd fel rhan o’n Cynllun Ardal Ranbarthol.
Dyma’r themâu y byddwn yn eu harchwilio:
Gofodau cymunedol
Ymddygiad a chefnogaeth
Cael hwyl
Iechyd meddwl a lles
Datblygu swyddi a sgiliau
Bydd hyn i gyd yn cael ei edrych drwy lens cyd-gynhyrchu mewn iechyd a gofal cymdeithasol, gyda’r bwriad o gael y rhai sy’n cymryd rhan yn y daith gomisiynu, cyd-ddylunio, cyd-greu a gwerthuso parhaus.
Gallwch gadw eich lle
Cewch wybod am ein digwyddiadau eraill yma.