Cynhaliwyd Digwyddiad Rhithiol Gwerth Cymdeithasol Cwm Taf ar 8 Chwefror 2022, dan gefnogaeth y tri Chyngor Gwirfoddol Sirol, Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr (BAVO), Interlink RCT, Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful (VAMT), a Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (RPB) Cwm Taf Morgannwg. Mae’r Bwrdd Partneriaeth yn bodoli i wella iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant pobl sy’n byw yn Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful.
Mynychwyd y digwyddiad gan dros 100 o gyfranogwyr o grwpiau cymunedol a gwirfoddol a gwasanaethau cyhoeddus o bob cwr o’r rhanbarth. Prif bwrpas y digwyddiad oedd edrych ar sut byddwn ni’n hybu, datblygu a mesur gwerth cymdeithasol yn y rhanbarth, a chodi ymwybyddiaeth am ddatblygiad y cynllun rhanbarthol newydd yn ogystal â’r Gronfa Integredig Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol Rhanbarthol.
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Rhan 2, Adran 16) yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol i hybu datblygu sefydliadau nid-er-elw i ddarparu gofal a chefnogaeth i ofalwyr, a gwasanaethau ataliol, yn eu hardaloedd. Rhaid iddynt hefyd sefydlu fforymau rhanbarthol i gefnogi darparwyr sy’n gweithredu ar sail gwerth cymdeithasol Nod y fforwm yw annog sector gwerth cymdeithasol ffyniannus sy’n gallu cyflawni cyfleoedd i ddarparu gwasanaeth, ac sy’n barod i wneud hynny. Pwrpas y fforwm yw: mwyhau deilliannau cadarnhaol a llesiant pobl leol’ dylanwadu ar ddarpariaeth gwasanaeth yn lleol; ac ychwanegu gwerth a ffocws i’r hyn sy’n cyfrif i bobl mewn dull sy’n mynd ymhellach na gwerth ariannol yn unig. Yn y digwyddiad a’r adroddiad hwn, mae ‘sefydliadau gwerth cymdeithasol’ yn derm cynhwysol sy’n cynnwys sefydliadau nid-er-elw, cymunedol a gwirfoddol, trydydd sector a than arweiniad defnyddwyr gwasanaeth, mentrau cymdeithasol a sefydliadau cydweithredol.
Roedd y digwyddiad yn llwyddiannus iawn yn seiliedig ar nifer y mynychwyr, ansawdd y cyflwyniadau a’r ffilmiau, y trafodaethau mewn gweithdai a’r adborth. Darparodd y digwyddiad gyfle i ddysgu gan brofiadau ‘llawr gwlad’ o’r modd y bydd grwpiau’n darparu ac yn mesur ‘gwerth cymdeithasol’ i wella llesiant law yn llaw â hybu ymwybyddiaeth cynlluniau’r RPB. Mae hyn yn cynnwys cyd-gynhyrchu asesiad anghenion y boblogaeth a mynd i’r afael â’r anghenion cydnabyddedig hyn drwy fuddsoddi mewn cynllun rhanbarthol drwy gyfrwng Cronfa Integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol Rhanbarthol.
Bydd yr adborth o weithdai’r digwyddiad yn cael ei werthuso fel rhan o ddarn o waith sy’n cael ei wneud gan Leon Quinn o’r Ganolfan Ymchwil Effeithlonrwydd Cymdeithasol a’i ariannu gan yr RPB. Bydd y gwaith hwn yn darparu argymhellion ar sut y gall partneriaid gydweithio i hybu gwerth cymdeithasol yng Nghwm Taf Morgannwg.
“Rydyn ni i gyd fel teulu yn y bôn… bendant yn mwynhau dod i le ble mae pobl yn gwybod beth dwi’n mynd drwyddo fe a fi’n deall beth maen nhw’n mynd drwyddo fe hefyd…” – Gofalwr ifanc, Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc Barnardo’s Cymru
‘Mae’n bwysig gallu cadw pethau’n syml er mwyn iddo fod yn bosib i sefydliadau yn y trydydd sector allu cyflawni er mwyn tystio i werth cymdeithasol heb effeithio’n negyddol ar y bobl rydyn ni’n eu helpu…’ – Cyfranogwr gweithdy.
Darllenwch yr adroddiad llawn isod.