10 Hydref | Bore Coffi Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd

Ymunwch â BAVO am fore coffi i gefnogi Diwrnod Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl y Byd. Galwch heibio rhwng 11 y bore a 2 y prynhawn.

Croeso i bawb. Bydd te, coffi a chacennau ar gael.

Cyfle i gwrdd ag eraill a chael gwybod am sefydliadau sy’n cynnig cymorth a chyngor yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’n gyfle i ymlacio gyda gweithgareddau ymwybyddiaeth ofalgar a phaned.

Lleoliad: Canolfan ARC, Ffordd Quarella, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 1JN

Ynglŷn â Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd

Nod Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yw codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a sbarduno newid cadarnhaol i iechyd meddwl pawb. Y thema ar gyfer 2023, a osodwyd gan Sefydliad Iechyd Meddwl y Byd, yw ‘Mae iechyd meddwl yn hawl dynol cyffredinol’.

Mae’n gyfle i siarad am iechyd meddwl, sut mae angen i ni ofalu amdano, a pha mor bwysig yw cael help os ydych yn ei chael hi’n anodd.

Dewch ynghyd â ffrindiau, teuluoedd neu gydweithwyr ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd eleni.

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award