Mae Cronfa Cymru Actif yn cynnig grantiau o £300 i £50,000 i glybiau chwaraeon a sefydliadau cymunedol i gefnogi prosiectau sy’n hyrwyddo cydraddoldeb, cynaliadwyedd ac arloesedd mewn chwaraeon.
Sylwer: Rhaid i geisiadau i Gronfa Cymru Actif y flwyddyn ariannol hon ddod i mewn erbyn dydd Mercher 31 Ionawr 2024. Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu prosesu tan fis Ebrill a byddant yn cael eu cyfrif yn rownd ariannu 2024-25.
Pwy sy’n gallu ymgeisio?
Gall pob clwb neu sefydliad chwaraeon nid-er-elw yng Nghymru wneud cais, waeth beth yw eu maint neu leoliad, os ydych yn bodloni’r amodau a’r gofynion cyllido.
I fod yn gymwys ar gyfer Cronfa Cymru Actif, mae’n rhaid i’ch sefydliad:
Beth sydd ar gael?
Yr isafswm yw £300 a’r uchafswm yw £50,000*.Dyfernir cyllid ar raddfa symudol. Bydd angen i chi wneud cyfraniad o 10% ar gyfer grantiau dros £10k neu 20% am fwy na £25k h.y.100% grant hyd at £10,000
Grant o 90% ar gyfer dyfarniadau rhwng £10,001 a £25,000
Grant o 80% ar gyfer dyfarniadau rhwng £25,001 a £50,000
Darllen mwy
Mae mwy am Cymru Actif ar wefan Chwaraeon Cymru
Mae Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Taf Trelái yn cael ei darparu gan Ventient Energy Ltd. Maent wedi buddsoddi dros £40,000 i mewn i weithgareddau a phrosiectau lleol mewn cymunedau o amgylch y safle ers 2001. Gweinyddir y Gronfa gan Interlink RCT, corff ymbarél yr holl grwpiau cymunedol a gwirfoddol lleol yn Rhondda Cynon Taf.
Beth sydd ar gael?
Bob blwyddyn mae £2,500 ar gael. Gellir dyfarnu grantiau ar gyfer cyfalaf neu refeniw hyd at uchafswm o £500.
Pwy sy’n gallu ymgeisio?
Mae’r gronfa ar gael i grwpiau cymunedol sydd o fudd i’r meysydd canlynol:
Gellir gwneud cais am grantiau i gefnogi nodau ac amcanion sefydliadol, recriwtio aelodau newydd, cynnwys mwy o bobl o’r gymuned a helpu i ddatblygu gwasanaethau.
Dim ond un cais y gellir ei wneud fesul grŵp.
Darganfyddwch fwy
I gael gwybod mwy am y gronfa, cysylltwch â’r Tîm Cyngor Cymunedol yn Interlink RCT. Ffoniwch 01443 846200 neu anfonwch neges e-bost at communityadvice@interlinkrct.org.uk
Sefydlwyd Rockwool ym 1937 ac mae’n arweinydd marchnad ar gyfer inswleiddio gwlân carreg. Lleolir prif safle Rockwool UK ym Mhencoed, Pen-y-bont ar Ogwr. Maent yn trefnu rhaglen o weithgarwch cymunedol yn eu cymuned leol ym Mhencoed a’r cyffiniau.
Beth sydd ar gael?
Mae rhaglen o roddion a nawdd dyngarol yn rhan greiddiol o’u hymgyrch i gael effaith gymdeithasol ac amgylcheddol gadarnhaol fel busnes, yn enwedig ym meysydd iechyd, tai a’r amgylchedd. Bydd y rhan fwyaf o’r rhoddion yn cael eu rhoi i brosiectau lleol o fewn y tair blaenoriaeth hyn:
Grantiau: gwerth amhenodol
Dyddiadau cau: 3 gwaith y flwyddyn
Darganfyddwch fwy
I gael rhagor o wybodaeth am raglen rhoddion a nawdd dyngarol Rockwool UK, ac i ofyn am ffurflen gais, e-bostiwch community@rockwool.com
Mae Grantiau dan Arweiniad Ieuenctid yn fenter a ariennir gan Lywodraeth Cymru i gefnogi amrywiaeth o brosiectau a gweithgareddau gwirfoddoli sy’n cael eu harwain a’u cynnal gan bobl ifanc.
Nod yr arian yw helpu pobl ifanc i wirfoddoli rhwng 14 a 25 oed i gymryd mwy o ran mewn sefydliadau cymunedol a gwirfoddol yn eu cymuned leol.
Mae Grŵp Cyllido Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnwys grŵp o bobl ifanc 14 – 25 oed sy’n byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Cefnogir y panel gan BAVO.
Rhagor o wybodaeth cysylltwch â BAVO F: 01656 810400 neu E: volunteering@bavo.org.uk
Ar agor unwaith y flwyddyn. Dyddiadau ar gyfer 2024 i’w cadarnhau.
Mae mwy am Grantiau dan Arweiniad Ieuenctid ar wefan CCCG