Pecynnau gardd am ddim i grwpiau a sefydliadau trwy Cadw Cymru’n Daclus. Mae’r rownd ddiweddaraf o geisiadau yn dod i ben ar 30 Mehefin a bydd yn parhau bob mis nes bod yr holl becynnau’n cael eu dosbarthu.
Y llynedd, cafodd mwy na 500 o fannau gwyrdd ledled y wlad eu creu, eu hadfer a’u gwella. Cymerodd grwpiau a sefydliadau cymunedol o bob lliw a llun ran – o elusennau anabledd a grwpiau ieuenctid i fentrau cymdeithasol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a grwpiau gofalwyr.
Nawr, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae cannoedd yn rhagor o becynnau ar gael. Dyma’ch cyfle i wyrdroi dirywiad natur a rhoi hwb pwysig i les eich cymuned leol ar yr un pryd.
Mae pob pecyn rhagdaledig yn cynnwys planhigion brodorol, offer a deunyddiau eraill. Byddant yn trin yr archebion a’r danfoniadau, a bydd eu swyddogion prosiect hyd yn oed yn darparu cefnogaeth ar lawr gwlad.
Mae eu pecynnau eleni yn disgyn i ddau gategori:
1. Pecynnau cychwynnol ar gyfer grwpiau cymunedol neu wirfoddolwyr sydd am greu gardd beillio, gardd ffrwythau a pherlysiau, neu ardd drefol.
2. Pecynnau datblygu ar gyfer sefydliadau cymunedol sy’n barod i ymgymryd â phrosiect mwy ac adeiladu gardd sy’n tyfu bwyd neu ardd fywyd gwyllt.
Yn 2021-22, rhoddir blaenoriaeth i brosiectau mewn ardaloedd trefol, difreintiedig sydd ag ychydig neu ddim mynediad at natur. Rydym hefyd yn wirioneddol awyddus i groesawu ceisiadau gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ledled Cymru.
Mae’n broses ymgeisio syml. Ewch i wefan Cadw’n Daclus, dewiswch eich pecyn, darllenwch y canllawiau, a dadlwythwch a chwblhewch y ffurflen gais.
Maent yn disgwyl i becynnau gael eu bachu’n gyflym, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cael eich cais i mewn yn fuan!
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’u tîm Lleoedd Natur Lleol – e-bostiwch nature@keepwalestidy.cymru