Cyfeillgarwch a chefnogaeth i chi

Community CompanionsOs ydych chi’n teimlo’n unig ac yn ynysig gallwn ni helpu.

Sylwch: fel canlyniad i’r cyngor cyfredol ar Coronafeirws, ar hyn o bryd rydym ond yn darparu Gwasanaeth Cyfeillio Ffôn Covid-19 sy’n cynnig help a chefnogaeth trwy sgyrsiau.

Trwy helpu i leihau eich ofnau os ydych chi’n profi pryder ac ansicrwydd; mae ein prosiect cyfeillio dros y ffôn yn cynnig llais cyfeillgar ar eiliad mae’r teimladau o unigedd ac unigrwydd yn cynyddu. Cysylltwch â ni am fanylion pellach.

Ydych chi’n teimlo fel hyn weithiau….

  • Yn unig heb deulu na ffrindiau estynedig o’ch cwmpas?
  • Hoffech chi gael rhywun i fynd allan gyda chi?
  • Ydy trafnidiaeth yn broblem ac ni allwch gyrraedd y lleoedd yr hoffech ymweld?
  • Hoffech chi gael rhywun i alw heibio am sgwrs a phaned?

Oni fyddai’n braf pe gallai rhywun…

  • mynd gyda chi i gaffi cymunedol, grŵp lleol neu weithgaredd o’ch dewis?
  • galw i mewn am sgwrs neu fynd â chi siopa?
  • mynd â’ch ci am dro gyda chi?
  • chwarae gêm o scrabble dros baned?

Rydym yn cefnogi llawer o bobl fel chi trwy ein cyfaill gwirfoddol. Byddant yn rhoi rhan o’u hamser eu hunain i gynnig cwmnïaeth os ydych chi’n teimlo’n unig neu angen help ychwanegol i fynd allan ac i fynd yn ôl i fywyd cymunedol. Byddwn yn ymweld â chi yn eich cartref a gallwch benderfynu pa fath o gyfeillio yr hoffech chi. Chi biau’r dewis!


Gallwn helpu os ydych chi:

  • teimlo’n unig neu’n ynysig;
  • byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr;
  • byw mewn llety cysgodol neu’n rhentu, eiddo cymdeithas dai neu’ch cartref eich hun;
  • wedi dioddef profedigaeth ac angen cefnogaeth i fynd yn ôl i fywyd cymunedol;
  • angen cefnogaeth ychwanegol gyda phethau ymarferol fel mynd am dro neu siopa;
  • eisiau gwneud ffrindiau newydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau neu glybiau cymunedol, ond nid oes gennych yr hyder i fynd yno ar eich pen eich hun.

Bydd pob un o’n gwirfoddolwyr wedi dilyn rhaglen hyfforddi a gynlluniwyd yn ofalus a byddant yn cael eu paru â chi’n ofalus. Byddwch hefyd yn derbyn cyswllt yn rheolaidd gan BAVO i sicrhau eich bod yn hapus gyda’r gwirfoddolwr sy’n eich cefnogi chi a gyda’n gwasanaeth cyfeillio.

Bydd pob un o’n gwirfoddolwyr wedi cael gwiriad DBS i sicrhau eich diogelwch.


Quality in befriending awardBeth fydd yn digwydd os gofynnaf am help?

Ar ôl gofyn am gefnogaeth, byddwn yn dod allan i ymweld â chi a chymryd rhai manylion. Byddwn yn trafod pa fath o gyfeillio yr hoffech chi a byddwn yn gofyn am eich diddordebau. Bydd y wybodaeth hon yn ein cynorthwyo i baru’r gwirfoddolwr iawn â chi. Ar ôl i ni baru cyfaill gwirfoddol a chi, byddwn yn dod i ymweld â chi ar amser y cytunwyd. Yna bydd eich cyfaill gwirfoddol yn parhau i ymweld â chi yn rheolaidd, os rydych chi ei eisiau.


Gwrandewch ar stori Mair yma – 

Byddwn yn cadw mewn cysylltiad â chi yn rheolaidd i sicrhau eich bod yn hapus ac yn cael y gorau allan o gyfeillio. Gallwch chi benderfynu os ydych chi eisiau ein cefnogaeth i ddod i ben ar unrhyw adeg.

Am wybodaeth bellach ffoniwch BAVO, Ff: 01656 810400, E: bavo@bavo.org.uk


Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth trwy lawrlwytho ein canllaw cyfeillio i bobl yng Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr


Cysylltwch â ni

Am fanylion pellach cysylltwch â BAVO, Ff: 01656 810400 neu E: bavo@bavo.org.uk

Community Companions partners

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award