Sesiwn ar-lein mis Mawrth: Newidiadau pwysig i’r Cynllun Grant Lleoedd Lleol i Natur

Mae Lleoedd Natur Lleol Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn gynllun grant cyfalaf sydd â’r nod o alluogi cymunedau yng Nghymru i adfer a gwella natur.

Mae’r gronfa ar agor nes bydd rhybudd pellach ac mae dros £ 1m i’w ddosbarthu o hyd. Felly dewch i ddarganfod am newidiadau i’r cynllun grant Lleoedd i Natur Lleol yn eu sesiwn ar-lein:

Mae tocynnau am ddim ar gael ar hyn o bryd ar gyfer dydd Llun 1 Mawrth am 2pm

Ers mis Mehefin y llynedd, mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu cymorth grant i 25 grŵp dros £ 900,000 o Leoedd Lleol i Natur (cyfartaledd o dros £ 100,000 y mis) ac erbyn hyn mae un neu ddau o newidiadau pwysig yn dod drwodd.

Ai hon yw’r rhaglen iawn i chi?

  • A yw’ch sefydliad am gaffael, adfer a gwella natur yng Nghymru?
  • A fydd eich prosiect yn trawsnewid natur lle mae pobl yn byw, gweithio a threulio eu hamser hamdden?
  • A oes angen grant hyd at £ 50,000 arnoch?
  • dych chi’n sefydliad dielw?

Os gwnaethoch chi ateb ydw i’r cwestiynau hyn yna mae’r gronfa Lleoedd Natur Lleol ar eich cyfer chi.

Gallwch gofrestru’ch lle yma.

Pan fyddwch wedi archebu, anfonir dolen i ymuno â’r sesiwn 24 awr ymlaen llaw.

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award