
Dros yr haf, bu tîm Llyw-wyr Cymunedol BAVO yn gweithio gyda Russel Todd a Dave Horton o Grow Social Capital i gynnal gwerthusiad cynhwysfawr o’r Newid Mwyaf Arwyddocaol (Most Significant Change) o’r Gwasanaeth Llyw-wyr Cymunedol.
Rhoddodd yr adroddiad gyfle i’n tîm ailgysylltu â chyn-ddefnyddwyr y gwasanaeth a chlywed yn uniongyrchol sut roedd y Llyw-wyr wedi’u cefnogi. Rhoddodd hyn gyfle gwerthfawr i’n Llyw-wyr hefyd fyfyrio ar effaith hirdymor eu gwaith. Dywedodd un ohonynt:
“Anaml y byddwn yn gweld defnyddwyr y gwasanaeth eto mor hir ar ôl ein cyswllt cychwynnol, felly roedd yn hyfryd gweld yr effaith barhaol roedd ein cefnogaeth wedi’i chael. Roedd myfyrio ar y newidiadau hyn hefyd i’w gweld yn fuddiol i’r defnyddwyr eu hunain, gan roi amser iddynt gydnabod eu cynnydd.”
I eraill, roedd yn atgof grymus o’r gwahaniaeth y maent yn ei wneud yn y gymuned:
“Roedd yn werth chweil gweld yr effaith gadarnhaol a gafodd fy nghyfraniad ar les May, yn enwedig ei hyder a’i hapusrwydd cyffredinol. Atgyfnerthodd hyn pa mor bwysig yw rhyngweithio cymdeithasol a’r effaith y mae’n ei chael ar sawl agwedd ar fywyd unigolyn.”
Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn, a gyhoeddwyd gan Grow Social Capital, drwy’r ddolen isod.
Gallwch hefyd ddarllen y crynodeb gweithredol yma.
Diolch o galon i Grow Social Capital am rannu eu gwybodaeth a’u harbenigedd drwy gydol y gwerthusiad, ac i Jane Gebbie, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chadeirydd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg, am ei hamser a’i chefnogaeth.




