Mae’r rownd grantiau hon yn targedu ac yn cefnogi’r genhedlaeth iau sydd yn yr hinsawdd economaidd anodd bresennol angen cefnogaeth i ddatblygu a dysgu sgiliau bywyd ariannol personol.
Mae’r rownd yn cau unwaith y bydd yn derbyn 40 cais, neu ddydd Gwener 26 Chwefror 2021, pa un bynnag a ddaw gyntaf.
Y tro hwn, mae’n canolbwyntio ar ddarparu hwb ariannol i brosiectau sydd â’r nod o helpu’r rhai dan 26 oed. Y syniad yw dysgu a datblygu eu sgiliau bywyd ariannol, i’w helpu i ffynnu yn yr amseroedd economaidd cythryblus hyn.
Mae’r Elusen MSE yn rhoi grantiau i sefydliadau dielw yn y DU sy’n cyflwyno gweithgareddau sy’n cael effaith barhaol ar sut mae pobl yn meddwl, yn ymddwyn ac yn rheoli eu harian.
Darganfyddwch ragor o wybodaeth a sut i wneud cais yma
Mae ein gwefan ariannu Funding Wales a lansiwyd gan Third Sector Support Wales, yn helpu sefydliadau trydydd sector i ddod o hyd i gyllid.
I ddechrau chwilio am gyfleoedd cyllido, ewch i funding.cymru