KPC Ieuenctid a Chymuned yn chwilio am Drysorydd / Cyfarwyddwr Cyllid Ymddiriedolwr gwirfoddol

Cyhoeddwyd: 1 Mehefin 2021

Oes gennych chi ddiddordeb mewn plant, pobl ifanc a’r gymuned? Ydych chi eisiau helpu i newid pethau er gwell?

Ar hyn o bryd mae KPC Youth & Community sydd wedi’i leoli yn Pyle, yn chwilio am Drysorydd / Cyfarwyddwr Cyllid ar gyfer eu bwrdd – a allai fod yn ddelfrydol ar gyfer cyfrifydd sydd wedi cymhwyso’n ddiweddar neu wedi ymddeol / lled ymddeol. Mae’r rôl yn ddi-dâl ond telir treuliau rhesymol.

Maent yn chwilio am ymddiriedolwyr ag egni, angerdd ac ymrwymiad a all helpu eu bwrdd i drafod y sefyllfa ariannol heriol bresennol i bob elusen, wrth gynnal ffocws i arloesi a datblygu.

Mae KPC Youth & Community yn elusen wedi’i lleoli yn Pyle, sy’n gweithio i gefnogi pobl ifanc, y teulu a’r gymuned ehangach, trwy ddarparu cyngor, gwybodaeth, gweithgareddau, cefnogaeth.

Am drafodaeth anffurfiol, e-bostiwch Paula Lunnon (Cadeirydd y Bwrdd Cyfarwyddwyr): paula@kpcyouth.com i drafod amseroedd cyfleus i gael sgwrs, neu e-bostiwch: info@kpcyouth.com i gael ffurflen gais.

Sylwch mai dim ond gyda’u ffurflen gais wedi’i chwblhau y maent yn derbyn CVs.

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award