Cofrestru Elusennau

Oeddet ti’n gwybod…?

… Os yw’ch grŵp er budd y cyhoedd yn unig a bod ganddo incwm blynyddol o dros £5,000 y flwyddyn, o ba bynnag fath, a waeth sut y caiff ei wario, RHAID iddo gofrestru fel elusen?

Gall staff BAVO helpu eich grŵp i gofrestru fel elusen, a hyd yn oed leihau atebolrwydd eich pwyllgor / bwrdd ar yr un pryd trwy eich helpu i gofrestru fel Sefydliad Corfforedig Elusennol.

Os yw’ch grŵp yn berchen ar eiddo neu’n cyflogi staff gallai hyn fod y dewis doethaf o strwythur cyfreithiol. Bydd staff BAVO yn trafod yr opsiynau gyda chi ac yn eich cefnogi trwy gydol y broses, gan ddarparu arweiniad ac opsiynau sydd er budd gorau eich sefydliad.

Mae gan sefydliad corfforedig hunaniaeth gyfreithiol ei hun. Hynny yw, mae’n gorff corfforaethol a all weithredu’n gyfreithiol fel endid sengl. Mae hyn yn golygu y gall fod yn berchen ar eiddo, ymrwymo i gontractau a chyflogi pobl yn ei enw ei hun. Ar y llaw arall, mae sefydliad anghorfforedig, yn parhau i fod yn gasgliad o unigolion, ac os yw am fod yn berchen ar eiddo ac ati, rhaid iddo ddibynnu ar unigolion i wneud hynny ar ei ran.

Mae corffori hefyd yn golygu bod atebolrwydd y sefydliad i drydydd partïon wedi’i gyfyngu i gyfanswm gwarantau neu gyfalaf cyfranddaliadau’r aelodau, yn dibynnu ar natur y sefydliad. Mae hyn yn rhoi amddiffyniad i’r rhai sy’n rhedeg y sefydliad a’i aelodau yn y rhan fwyaf o achosion.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth trwy glicio ar ein taflen wybodaeth BAVO Statws elusennol

Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth yma

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award