Ffurflen ar-lein hunan-atgyfeirio ar gyfer gofalwyr di-dâl wedi’i lansio ar gyfer brechu COVID-19

Cyhoeddwyd: 1 Mai 2021
Sylwch, mae'r erthygl hon wedi dod i ben

Gofynnir i ofalwyr di-dâl nad ydynt efallai wedi’u cofrestru fel gofalwr di-dâl gyda’u meddyg teulu ddod ymlaen trwy lenwi ffurflen hunan-atgyfeirio ar-lein newydd er mwyn derbyn eu brechlyn Covid-19 fel rhan o grŵp blaenoriaeth 6.

Os mai chi yw’r unig ofalwr neu’r prif ofalwr (di-dâl) ar gyfer person oedrannus neu anabl sy’n agored i niwed yn glinigol, rydych bellach yn gymwys i gael brechlyn.

Mae’r rhai sy’n agored i niwed yn glinigol i COVID-19 yn cynnwys:

  • plant ag niwro-anableddau difrifol;
  • y rhai sydd wedi’u dynodi’n glinigol Eithriadol o fregus (CEV), oedolion sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol;
  • y rhai sydd angen gofal oherwydd oedran datblygedig.

Os ydych chi eisoes wedi’ch cofrestru fel gofalwr di-dâl gyda’ch meddyg teulu, bydd eich practis yn cysylltu â chi’n awtomatig. Nid oes raid i chi wneud unrhyw beth.

Fel arall, bydd angen i chi lenwi ffurflen archebu ar-lein. Mae ffurflenni ar gael ar dudalennau gwe bwrdd iechyd y GIG. Mae angen i chi ddewis eich bwrdd iechyd lleol (neu’r bwrdd iechyd lle mae’ch meddyg teulu wedi’i leoli). Ar ôl i chi lenwi’r ffurflen fe’ch gwahoddir am eich brechlyn COVID-19.

Darganfyddwch fwy yma

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award