Cyllid ar gael i helpu pobl ifanc ag anawsterau dysgu ac anghenion arbennig eraill

Cyhoeddwyd: 9 Mawrth 2021
Sylwch, mae'r erthygl hon wedi dod i ben

Dyddiad cau: 31 Mawrth 2021.

Mae Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Margaret Dobson yn rhoi grantiau i gefnogi pobl ag anabledd dysgu ar ôl iddynt gyrraedd oedran gadael ysgol arferol, i ddysgu sgiliau i’w helpu i fyw bywydau mwy annibynnol.

Bydd yr Ymddiriedolwyr yn blaenoriaethu ceisiadau gan brosiectau, sy’n cwrdd â’r meini prawf cyntaf ac o leiaf dau o’r canlynol:

  • Wedi’i gynllunio ar gyfer, ac wedi’i anelu at bobl ag anableddau dysgu rhwng 18 a 25 oed y tu allan i amgylchedd yr ysgol. Bydd y rhai 16+ oed nad ydyn nhw mewn addysg, hyfforddiant na gwaith ffurfiol hefyd yn cael eu hystyried;
  • Wedi cael effaith andwyol gan Covid 19 a’i oblygiadau;
  • Cynnig cyfle i bobl ennill sgiliau bywyd trosglwyddadwy, a allai gynnwys sut i gael gafael ar gymorth;
  • Cynnig profiad cyflogaeth;
  • Cynnwys hyfforddiant achrededig;
  • Galluogi rhyngweithio cymdeithasol â phobl eraill, a chaniatáu hunanfynegiant a magu hyder;
  • O sefydliadau llai sy’n dangos agwedd entrepreneuraidd tuag at a mater a nodwyd yn lleol;
  • Gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau lleol a darparwyr gwasanaeth perthnasol.

Mae gan yr Ymddiriedolwyr ddiddordeb hefyd mewn clywed gan sefydliadau sy’n cefnogi pobl ag anabledd dysgu a’u gofalwyr, i ddeall y system gofal cymdeithasol yn well.

Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth a sut i wneud cais yma.


Chwilio am gyllid ar gyfer eich prosiect neu sefydliad?…. cliciwch ar ein platfform chwilio am gyllid ar gyfer y trydydd sector yng Nghymru!

Mae ein gwefan ariannu Funding Wales a lansiwyd gan Third Sector Support Wales, yn helpu sefydliadau trydydd sector i ddod o hyd i gyllid.

I ddechrau chwilio am gyfleoedd cyllido, ewch i funding.cymru

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award